Y ‘Gaeaf ar ddod’ i gyllidebau cynghorau, yn ôl arolwg CLlLC

Dydd Iau, 27 Medi 2018

Wrth i gyhoeddiad Cyllideb Lywodraeth Cymru wythnos nesaf nesáu, mae CLlLC wedi arolygu 22 o gynghorau Cymru ar eu rhagolygon ariannol ar ôl wyth mlynedd o lymder. Cafwyd ymateb gan bob awdurdod. Y neges glir yw nad oes gan gynghorau unman i droi bellach o ran dewisiadau. Mae cyllid wedi ei dorri dros £1bn dros y cyfnod hynny ac, er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru i amddiffyn gwasanaethau, mae’r opsiynau ar gyfer toriadau yn tyfu’n fwyfwy anodd, a’r annymunol a’r amhosibl yn dod yn llawer mwy tebygol.

 

Y negeseuon allweddol o arolwg y cynghorau yw:

  • Mae pwysedd cyllidebol o £264m ar gyfer 2019-20 bellach yn dan-ddatganiad, o ganlyniad i arwyddion diweddar gan Drysorlys EM y gall cyfraniadau cyflogwyr ar gyfer cynlluniau pensiwn nas ariannwyd, gan gynnwys y Cynllun Pensiynau Athrawon, gynyddu yn sylweddol – cyn gymaint a £46m o gostau ychwanegol yn ystod y flwyddyn.
  • Mae llawer o awdurdodau yn adrodd bod problemau ariannol gydag ysgolion nawr mor aciwt â gofal cymdeithasol
  • Mae arian wrth gefn ysgolion yn cael ei ostwng gan bwyseddau cyllidebol, gyda llawer o ysgolion nawr yn rhedeg diffygion cyllidebol.
  • Mae gofal cymdeithasol nawr yn cyfrif am oddeutu 80% o’r holl orwariant o £36m a ragolygir yn y flwyddyn ariannol bresennol. Mae pryder arbennig am y galw cynyddol mewn gofal cymdeithasol i blant a’r farchnad gofal ehangach.
  • Mae targedau ar gyfer arbedion effeithlonrwydd nawr yn symud i bob maes, gan gynnwys y gwasanaethau mwy. Bydd unrhyw feysydd dewisol llai, megis gwasanaethau ieuenctid, yn parhau i ddiflannu gan leihau gwasanaethau cymunedol sydd yn y pen draw yn helpu i wella llesiant.
  • Heb gyllid ychwanegol, amcangyfrifir y bydd hyd at 7,000 o swyddi neu 5% o gyfrif pennau bob blwyddyn dros y tymor canolig. Ni allwn ni amcangyfrif pa gyfran o hynny fydd yn ddiswyddiadau gorfodol, ond mae’r lleihad o gyfrif pennau yn ymdebygu i faint yr holl weithlu haearn a dur yng Nghymru. Byddai hyn yn golled anferthol i unigolion, teuluoedd a chymunedau ar draws Cymru.
  • Mae sawl awdurdod yn adrodd bod y sgôp i osgoi diswyddiadau gorfodol bellach bron a dod i ben, ac mae teimlad o flinder a morâl isel mewn rhannau mawr o’r gweithlu wrth i gadernid gwasanaethau erydu.
  • O ran yr arbedion a ragolygir a fydd eu hangen dros y dair mlynedd nesaf, mae cynghorau wedi nodi mai’r unig ffordd y gellir cyflawni hyn yw trwy atal gwasanaethau, lleihau cyllidebau ysgolion, gostwng y lefel o ofal cymdeithasol a chefnogaeth sy’n cael ei gynnig gan gynghorau i bobl 6ynhŷhŷn a bregus, a thoriadau pellach i’r union wasanaethau hynny a fyddai’n gallu helpu i atal y pwyseddau hynny rhag cynyddu.
  • Bydd y Dreth Gyngor yn parhau i godi wrth i gynghorau ymdrechu i gynnal gwasanaethau gwerthfawr.

 

Gan ystyried y materion yma, mae dewisiadau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud i ysgafnu’r baich.

 

Dywedodd Steve Thomas CBE, Prif Weithredwr CLlLC:

“Bydd eleni’n profi i’r eithaf holl ymrwymiadau ac addewidion Llywodraeth Cymru mewn strategaethau megis ‘Ffyniant i Bawb’, ‘Dyfodol Iachach i Gymru’, y Cynllun Gweithredu Economaidd a deddf arloesol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r dogfennau yma i gyd yn tanlinellu rôl allweddol buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol megis gofal cymdeithasol, tai, hamdden, safonau amgylcheddol, datblygu economaidd a thrafnidiaeth. Mae nhw’n tanlinellu pwysigrwydd hanfodol y gwasanaethau yma o ran llesiant a chadw pobl i ffwrdd o’r ysbytai.”

“Mae dros £1.4bn o fuddsoddiad ar ei ffordd i lawr yr M4 yn dilyn y cyhoeddiad o wariant ychwanegol o £20bn ar y GIG yn Lloegr. Llywodraeth Cymru yn unig fydd yn gyfrifol am sut y bydd y cyllid yma’n cael ei wario. Pe bai’r holl £370m sydd ar gael yn 2019-20 yn mynd i’r GIG, byddai hynny’n golygu y bydden nhw wedi cael codiad hyd at 7%, lle’r oedd 3.1% wedi cael ei gyllidebu eisoes. Bydd llywodraeth leol, ar y llaw arall, yn gorfod ceisio dod i ben â setliad arian gwastad o bosib gyda phwyseddau anferthol i’w cwrdd ar gyflogau, demograffeg ac erydiad y sector gyhoeddus.”

“Gallwn ni weld yr arwyddion rhybudd ymhobman o’n cwmpas ni, gyda chynghorau yn mynd i’r wal yn Lloegr yn dangos canlyniadau tywyll llymder parhaus, gan gynnwys toriadau torcalonnus ar gyfer gwasanaethau y mae’r rhai bregus yn ein cymdeithas yn dibynnu arnynt. Mae angen seibiant ar drethdalwyr Cymru, a’r ffordd orau y gall Llywodraeth Cymru wneud hynny yw i fod yn driw i’w gair ar wasanaethau ataliol ac i ariannu gwasanaethau lleol yn iawn.”

 

Trafodwyd yr arolwg mewn cyfarfod o Is-Grŵp Cyllid y Cyngor Partneriaeth ar 27 Medi, a oedd yn cynnwys arweinyddion cynghorau, yn ogystal â’r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid Mark Drakeford AC a’r Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol Alun Davies AC.

Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid Mark Drakeford AC hefyd yn cwrdd ag arweinyddion ac uwch gynghorwyr yng nghyfarfod Cyngor CLllC ar Ddydd Gwener 28 Medi 2018.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30