CLILC

 

‘Peidiwch gadael Cymru wledig ar ôl wedi Brexit’: Rhybudd gan arweinwyr gwledig CLlLC

  • RSS

Archifau

Dydd Iau, 01 Tachwedd 2018

Ni ddylai Cymru gael ei rhoi o dan anfantais cystadleuol mewn unrhyw ddulliau o gefnogi amaethyddiaeth yn y dyfodol, mae arweinwyr cynghorau gwledig yng Nghymru yn rhybuddio.

 

Mewn cyfarfod yng ngogledd Cymru o Fforwm Gwledig CLlLC (sydd yn cynnwys naw o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru) i ystyried ei ymateb i ymgynghoriad ‘Brexit a’n Tir’ gan Lywodraeth Cymru, cytunodd arweinwyr na ddylai cyflwyno unrhyw newidiadau roi rheolwyr tir yng Nghymru o dan anfantais gystadleuol o’i chymharu â chenhedloedd eraill y DU a gweddill yr UE. Fe wnaethon nhw hefyd gytuno y byddai’n rhaid cael cyfnod trosglwyddiad o saith mlynedd, o 2021, er mwyn llwyddo i weithredu unrhyw newidiadau.

 

Cynigir yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru symud i ffwrdd oddi wrth taliadau sylfaenol i ddau gynllun newydd wedi Brexit, sef cynllun cadernid economaidd a chynllun nwyddau cyhoeddus.

 

Mae’r ymateb – a ystyriwyd gan Fforwm Gwledig CLlLC ac yna ei gytuno gan pob un o’r 22 o arweinwyr cyngor – yn amlinellu deng maes sydd angen cael eu hystyried cyn y gellir trafod y ddau gynllun newydd mewn manylder. Yn ogystal â’r angen i osgoi Cymru’n cael ei rhoi dan anfantais gystadleuol, mae meysydd allweddol eraill y yr ymateb i’r ymgynghoriad yn cynnwys:

 

  • Mwy o gydnabyddiaeth i bwysigrwydd cynhyrchu bwyd – dylai bod ffocws cryfach ar gefnogaeth i gynhyrchu bwyd a mwy o sylw i’r mater o ddiogelwch bwyd
  • Dylai bod ffermwyr tenant ac ar raddfa llai yn cael eu gwarchod – mae’r cynigion yn rhoi gweithrediadau amaethyddol a’r rheiny gyda chyfyngiadau amgylcheddol / cynhyrchiant yn arbennig mewn risg. Dylai bod y rheiny sydd yn ffermio tir o’r fath, gan gynnwys ffermwyr yr ucheldir, gael eu gwarchod, yn ogystal â sut y gall pecynnau cefnogaeth penodol sicrhau dyfodol i ffermydd tenant.
  • Mae cefnogaeth datblygu gwledig yn hanfodol – ar hyn o bryd, mae’n aneglur pa gefnogaeth sy’n mynd i fod ar gael yn y dyfodol
  • Mae angen asesiad effaith ar gyfer yr iaith Gymraeg – mae’r Gymraeg yn ffynnu mewn cymunedau ffermio, ac mae angen gwell dealltwriaeth o effaith newidiadau o’r fath.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Gwynedd), Llefarydd ar y Cyd dros Faterion Gwledig:

“Mae’r Fforwm yn deall yr angen – â’r manteision posib – o system newydd wedi’i theilwra ar gyfer anghenion Cymru. Fodd bynnag, rydyn ni yn bryderus y gall y newidiadau fod yn niweidiol i economïau a chymunedau gwledig os nad yw’r risgiau yn cael eu hadnabod yn glir ymlaen llaw a bod mesurau addas yn cael eu rhoi mewn lle. Dylien ni ddim rhuthro’r newidiadau yma yn yr hinsawdd presennol o ansicrwydd ynghylch Brexit.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris (Powys), Llefarydd ar y Cyd dros Faterion Gwledig:

“Teuluoedd fferm yw asgwrn cefn llawer o’n cymunedau gwledig ni, yn rhoi sefydlogrwydd a chefnogaeth i rwydweithiau cymdeithasol. Mae wirioneddol bwysig ein bod ni’n datblygu trefniadau newydd gan weithio â nhw a’u cyrff cynrychiadol. Mae deialog barhaus wedi bod trwy Grwp Ford Gron yr Ysgrifennydd Cabinet, ond mae’n rhaid i’r ddeialog honno barhau a’u lleisiau i gael eu clywed – fel y dylai ein lleisiau ni, fel aelodau etholedig cymunedau lleol.”

 

I weld ymateb llawn CLlLC i ymgynghoriad ‘Brexit a’n Tir’ gan Lywodraeth Cymru, ewch i www.wlga.cymru/Brexit

https://www.wlga.cymru/dont-leave-rural-wales-behind-post-brexit-warn-wlga-rural-leaders