CLILC

 

Gwaith gwrthderfysgaeth a Rhaglen 'Prevent'

Cafodd trydydd fersiwn CONTEST (strategaeth gwrthderfysgaeth y DG) sydd ar waith er 2003 ei gyhoeddi fis Gorffennaf 2011. Nod y strategaeth yw diogelu'r DG rhag terfysgwyr rhyngwladol fel y gall pobl fyw heb ofn.

Mae pedair elfen i CONTEST:

  1. Hela: rhwystro terfysgwyr rhag ymosod arnon ni
  2. Atal: atal pobl rhag mynd yn derfysgwyr neu gefnogi eithafiaeth dreisgar
  3. Amddiffyn: cryfhau'r amddiffyn yn erbyn terfysgwyr
  4. Paratoi: lleddfu effaith ymosodiad lle nad oes modd ei osgoi

Gwrthderfysgaeth yng Nghymru

Er mai San Steffan piau'r rhan fwyaf o gyfrifoldebau am wrthderfysgaeth o hyd, mae'r maes yn effeithio ar y polisïau a'r swyddogaethau sydd wedi'u datganoli, yn arbennig yr awdurdodau lleol a'r partneriaethau diogelwch cymunedol. Felly, cafodd Bwrdd CONTEST Cymru ei sefydlu fis Mawrth 2008.

Rhaglen 'Prevent' yng Nghymru

Ymhlith holl agweddau Ymgyrch CONTEST, ‘atal’ sydd fwyaf perthnasol i awdurdodau lleol a phartneriaethau diogelwch cymunedol. Mae yn y strategaeth atal, a gafodd ei chyhoeddi fis Mehefin 2011, 3 phrif amcan:

  1. ymateb i her ideolegol terfysgaeth a bygythiad y rhai sy’n ei hybu
  2. atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth a gofalu bod cymorth priodol ar gael iddyn nhw
  3. cydweithio ag amrywiaeth helaeth o sectorau a sefydliadau (megis addysg, ffydd, iechyd a chyfiawnder troseddol) lle mae eisiau mynd i’r afael â dylanwadau eithafol

Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 a Dyletswydd Atal

Wrth gyflawni eu swyddogaethau, dylai’r awdurdodau lleol gadw mewn cof fod angen rhwystro pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth, yn unol â Dyletswydd Atal 2015.


Dolenni:


Mae rhagor o wybodaeth gan: Rachel Morgan

https://www.wlga.cymru/counter-terrorism-and-prevent