CLILC

 

‘Newid yw’r unig sicrwydd’ mewn cymunedau gwledig wedi Brexit

  • RSS
Dydd Mawrth, 20 Chwefror 2018

Bydd angen mwy o gefnogaeth ar gymunedau cefn gwlad i ymateb i’r newid mawr wrth i’r DU ymadael â’r UE, meddai arweinwyr cynghorau gwledig Cymru.

Yn aelod o Grŵp Bord Gron ar Brexit wedi’i sefydlu gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Lesley Griffiths AC, mae WLGA wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn paratoi am wahanol senarios Brexit.

Mae adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi gan y grŵp yr wythnos hon yn ei gwneud yn glir mai ‘newid yw’r unig sicrwydd’ mewn cymunedau gwledig wrth i Gymru a’r DU baratoi i ymadael yr UE, a does dim amheuaeth gan awdurdodau lleol o’r rhan y bydd rhaid iddynt ei chwarae wrth reoli yr hyn a allai fod yn newidiadau seismig.

Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris (Powys), Cyd Lefarydd WLGA dros Faterion Gwledig:

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi ymagwedd gynhwysol yr Ysgrifennydd Cabinet wrth baratoi ar gyfer Brexit, ac edrychwn ymlaen i barhau i gydweithio’n agos wrth i’r gwaith brysuro ymhellach ac wrth i ddigwyddiadau i ddatblygu.”

“Fel darparwyr gwasanaethau yng nghefn gwlad, mae awdurdodau lleol wedi eu lleoli yn ddelfrydol i adnabod anghenion y cymunedau hynny wrth i’r DU baratoi i adael yr UE. Fel a amlinellir mewn adroddiad diweddar gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru mae cymunedau gwledig yn fwy bregus i heriau Brexit, a mae’n rhaid i awdurdodau lleol fod yn rhan o’r holl drafodaethau ar drefniadau deddfwriaethol newydd i ddatblygu ymatebion synhwyrol a cyfannol i unrhyw heriau. Mae ffermio a’r sector amaethyddol yn bwysig iawn i economïau gwledig, ond mae’n rhaid hefyd cofio am gyfraniad eraill megis busnesau bach a buddsoddwyr mawr megis y sector addysg pellach ac uwch yn yr ardaloedd hynny.”

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Gwynedd), Cyd Lefarydd WLGA dros Faterion Gwledig:

“Fel y rhan o lywodraeth sydd yn gweithredu tua 60% o holl ddeddfwriaeth yr UE, mae gan lywodraeth leol diddordeb unigryw ac allweddol mewn dyfeisio fframweithiau llywodraethol newydd wedi Brexit, ac i bennu cyfeiriad polisïau newydd ar lefelau DU a Chymru.

“Mae’r agenda wledig yn llawer ehangach na’r sector amaethyddol pwysig yn unig, a mae’n rhaid i ni sicrhau y bydd cefnogaeth addas ar gyfer busnesau a chadwyni cyflenwi i amddiffyn economïau gwledig wrth iddyn nhw baratoi am gyfnod o newid trawsnewidiol heb ei debyg.”

 

-DIWEDD-

Nodiadau i Olygyddion

https://www.wlga.cymru/change-is-the-only-certainty-in-post-brexit-rural-communities