Bydd deiliad y swydd hon yn gweithio mewn tîm bach amlddisgyblaethol.
Fel Dadansoddwr Busnes byddwch yn pennu gofynion gwasanaeth o safbwynt digidol a busnes, yn nodi manteision i’r defnyddiwr ac yn trosi hyn i ofynion gweithredadwy.
Bydd gennych wybodaeth ymarferol o fethodolegau Hyblyg a byddwch yn gwerthfawrogi pwysigrwydd darparu prosiectau digidol yn hyblyg.
Byddwch yn ymarferydd Dadansoddi Busnes profiadol ac yn gallu rheoli’n effeithiol er mwyn ymchwilio, dychmygu a datrys problemau a chysyniadau cymhleth.
Byddwch hefyd yn gallu dadansoddi ac egluro gwybodaeth, a gwneud penderfyniadau disgybledig yn seiliedig ar beth sydd ar gael.
Byddwch yn gallu sicrhau fod cysyniadau a datrysiadau yn cyd-fynd â strategaeth, amcanion ac anghenion y busnes a’r defnyddiwr.
Byddwch hefyd yn gallu profi eich dadansoddiad busnes drwy gynllunio, dylunio ac adrodd.
Bydd y Dadansoddwr Busnes Hyblyg yn helpu i nodi, deall a blaenoriaethu gwelliant gwasanaethau ar gyfer ein dinasyddion. Bydd deiliad y swydd yn ceisio dod â chymuned o ddadansoddwyr busnes ynghyd ar draws llywodraeth leol i gyfrannu a chefnogi'r rhaglen welliant.