175 miliwn yn llai, rhaid cwtogi ar wasanaethau

Dydd Mawrth, 08 Hydref 2013

Mae arweinyddion pob plaid wleidyddol ym myd llywodraeth leol wedi adweithio’n gryf i gyllideb arfaethedig fydd yn cwtogi o £175 miliwn ar eu harian craidd yn 2014/15 ac yn torri £65 miliwn ychwanegol yn 2015/16, gan adael y cynghorau lleol i wynebu diffyg o £460 miliwn erbyn diwedd y cyfnod hwnnw. 

Mae perygl y bydd y gyllideb arfaethedig gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn anffafrio gwasanaethau cyhoeddus lleol o’u cymharu â gweddill y sector cyhoeddus gan fod yr arian craidd i bob cyngor y flwyddyn nesaf wedi gostwng o 4% ar gyfartaledd a bod rhagor o doriadau i ddod yn 2015-16. Ar ben hynny, mae incwm byd llywodraeth leol wedi gostwng o 8% yn barod ar ôl cymryd chwyddiant i ystyriaeth. 

Gan fod rhagor o doriadau i ddod, mae disgwyl y bydd cynlluniau gwario’n dangos mai dyma’r saith mlynedd anhawsaf yng Nghymru ers yr Ail Ryfel Byd ynglŷn â gwariant gwladol. Ysgrifennodd arweinyddion y 22 gyngor lleol at y Prif Weinidog yn ddiweddar i esbonio’r goblygiadau i gymunedau’r wlad ac amlinellu’r hyn mae angen i Lywodraeth Cymru ei wneud i’w helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen. 

Er bod dyfnder ac ehangder y toriadau wedi deillio o raglen llymder Llywodraeth San Steffan, maen nhw’n adlewyrchu hefyd benderfyniad Llywodraeth Cymru i ymdrin ag argyfwng y GIG trwy gynyddu ei gyllideb yn sylweddol. Bydd y diogelu hwnnw, mewn gwirionedd, yn effeithio ar gyllideb pob adran arall gan gynnwys gwasanaethau ataliol y cynghorau lleol megis gofal cymdeithasol, tai a hamdden sy’n lleddfu’r pwysau fydd ar wasanaethau iechyd y wlad dros y tymor hir. 

Gan y gallai’r gyllideb arfaethedig arwain at ragor o broblemau yn y pen draw trwy flaenoriaethu arbedion dros y tymor byr, mae byd llywodraeth leol yn gofyn eto am ragor o hyblygrwydd yng nghyllidebau gwasanaethau cyhoeddus Cymru. 

Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton (Sir y Fflint), Llefarydd WLGA dros Faterion Ariannol: 

“Mae’r cynghorau lleol yn derbyn bod Llywodraeth Cymru yn wynebu penderfyniadau anodd na hoffen ni eu hwynebu o ran sut mae dyrannu ei hadnoddau ariannol prin o ganlyniad i doriadau llym yn yr arian mae Llywodraeth San Steffan yn ei roi i Gymru.” 

“Erbyn diwedd 2015-16, bydd byd llywodraeth leol wedi ysgwyddo’r rhan fwyaf o faich y llymder yng Nghymru gan y bydd ei ddyraniad gwladol wedi crebachu o 15% ar ôl cymryd chwyddiant i ystyriaeth. O ganlyniad, mae’n bosibl y bydd cynghorau’n gorfod cau llyfrgelloedd a chanolfannau chwaraeon, cwtogi’n sylweddol ar gyllidebau cynnal a chadw’r ffyrdd, torri cymorthdaliadau i’r bysiau a diffodd goleuadau’r strydoedd rhwng canol nos a’r wawr.” 

“Er y bydd cynghorau lleol yn gwneud eu gorau glas i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen megis addysg a gofal cymdeithasol, allan nhw ddim diogelu popeth. O ganlyniad i’r gyllideb yma, bydd cymunedau ledled y wlad yn gorfod newid eu disgwyliadau o ran pa wasanaethau y dylai cynghorau eu cynnig. Bydd rhaid i’r cynghorau a’u cymunedau nhw wynebu penderfyniadau anodd ynglŷn â’r hyn sydd i’w flaenoriaethu.” 

Meddai’r Cynghorydd Bob Wellington (Tor-faen), Arweinydd WLGA: 

“Mae byd llywodraeth leol yn wynebu’r gyllideb waethaf ers datganoli. Dyma sefyllfa na allwn ni ei datrys trwy ad-drefnu, chwaith. Pe baen ni’n dechrau rhaglen o’r fath heddiw, byddai angen llawer o amser ac arian i’w chyflawni.” 

“Mae gan y cynghorau eisoes strategaethau ariannol i arbed adnoddau a hybu arloesi. Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, mae cyflogau’n gweithwyr ni heb gynyddu o gwbl ac mae pawb ym myd llywodraeth leol yn helpu trwy fireinio’r cyllidebau er mwyn diogelu gwasanaethau rheng flaen. Nid dyna ddigon, yn anffodus, ac rydyn ni wedi cwtogi’n fawr ar wasanaethau anstatudol yn barod, gan golli dros 11,000 o swyddi. Mewn sawl rhan o’r wlad, y cyngor yw cyflogwr mwyaf yr ardal. Yn aml, unig gyflogwr yr ardal yw e. Yn sgîl y gyllideb arfaethedig yma, y disgwyl trist yw y bydd ein gweithlu’n crebachu eto fyth ac y bydd rhagor o wasanaethau’n cau.” 

“Er bod arweinyddion y cynghorau’n derbyn bod angen arbedion a bod Llywodraeth Cymru yn wynebu penderfyniadau anodd, dim ond pan fydd fframwaith ariannol cyson a hyblyg y bydd modd inni drawsffurfio gwasanaethau cyhoeddus a dod o hyd i ffyrdd gwell o’u cynnig.” 

Meddai’r Cynghorydd Dyfed Edwards (Gwynedd), Arweinydd Cylch Plaid Cymru WLGA: 

“Yn sgîl cyllideb Llywodraeth Cymru, dyma ddechrau oes newydd i gynghorau Cymru. Canlyniad polisïau llymder Llywodraeth San Steffan yw bod llai a llai o arian a mwy a mwy o bwysau ar wasanaethau rheng flaen. Rydyn ni’n wynebu anawsterau anferth mewn amgylchiadau o’r fath a bydd angen gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a’r bobl i leddfu’r effeithiau ar ein cymunedau ni. Mae ansicrwydd am y dyfodol ond, beth bynnag a ddaw, fydd pethau ddim yn aros yr un fath.” 

“Mae cyllidebau cefn gwlad Cymru wedi bod yn gostwng ers rhai blynyddoedd bellach er gwaethaf anawsterau ychwanegol megis cynnal gwasanaethau rheng flaen mewn ardaloedd lle mae’r boblogaeth ar wasgar a’r awdurdod lleol yw’r cyflogwyr mwyaf o bell ffordd. O dorri cyllidebau cynghorau cefn gwlad, mae’n anochel y bydd yn anos cynnal swyddi a gwasanaethau mewn cymunedau gwledig.” 

“Fe fydd yr argyfwng ariannol yn parhau dros gyfnod maith. Mae angen dealltwriaeth newydd ar sector cyhoeddus Cymru bellach fel y gallwn ni lywio trwy’r blynyddoedd llym a chynnig arweiniad a gobaith i’n cymunedau.” 

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans (Sir Ddinbych), Arweinydd Cylch Annibynnol WLGA: 

“Dyma’r gyllideb waethaf i fyd llywodraeth leol ers datganoli. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn awdurdod lleol rhagorol sy’n cofleidio newidiadau ac yn mynd ati bob amser i arloesi a gwella ei wasanaethau. I barhau i wneud hynny, mae angen llawer mwy o gysondeb a hyblygrwydd ynglŷn ag ariannu byd llywodraeth leol.” 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi dewis cwtogi ar arian y cynghorau lleol. Gallai fod wedi dewis cwtogi ar y fiwrocratiaeth a’r cyfyngiadau sy’n ychwanegu at ein baich ni, hefyd. Trwy wneud hynny, gallai helpu byd llywodraeth leol i ateb yr heriau sylweddol mae’n eu hwynebu yn ystod y cyfnod economaidd anhawsaf yn ei hanes. Fel arall, bydd rhaid cwtogi’n fawr ar y gwasanaethau cyhoeddus sydd mor hanfodol i gymunedau Cymru.” 
Meddai’r Cynghorydd Peter Fox (Sir Fynwy), Arweinydd Cylch Ceidwadol WLGA: 

"Yn sgîl toriadau Llywodraeth Cymru, mae byd llywodraeth leol yn wynebu heriau na welon ni eu tebyg erioed. Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, rydyn ni wedi ymdopi â chyllidebau oedd heb gymryd chwyddiant i ystyriaeth ond, i ddatrys y problemau sy’n wynebu’r awdurdodau lleol bellach, bydd angen newidiadau ysgubol. Bydd rhaid i bob cyngor ystyried yn fanwl pa wasanaethau mae’n gallu parhau i’w cynnal, yn arbennig y rhai dewisol, wrth geisio cyflawni cyfrifoldebau statudol." 

DIWEDD

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni
   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd, CF10 4LG

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30