CLILC

 

Dathlu gweithwyr ieuenctid mewn gwobrau i nodi Wythnos Gwaith Ieuenctid 2019

  • RSS
Dydd Gwener, 28 Mehefin 2019 Categorïau: Dysgu gydol oes Newyddion
Dydd Gwener, 28 Mehefin 2019

Bydd gweithwyr ieuenctid ledled Cymru yn cael eu cydnabod mewn seremoni gwobrwyo yn Neganwy heno (Dydd Gwener 28 Mehefin) fel rhan o Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni.

Nawr yn eu 25ain blwyddyn, bydd y gwobrau yn gyfle i roi diolch i’r gweithwyr talentog hynny sy’n gweithio gyda phobl ifanc i’w helpu nhw i ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial.

Bydd y seremoni yn cloi wythnos yn llawn digwyddiadau ar draws Cymru yn dathlu ac arddangos rôl bwysig gwaith ieuenctid yn ein cymunedau.

 

Yn siarad cyn y seremoni, dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Hoffwn i longyfarch pawb sydd wedi eu henwebu am wobr, ac hefyd i ddiolch i holl weithwyr ieuenctid Cymru am eu hymroddiad a chyfraniad di-flino.”

“Wedi gweithio gyda pobl ifanc fy hun fel athro am 35 mlynedd, dwi’n gwybod o brofiad sut y gall bywyd person ifanc gael ei wella trwy gael rhwydwaith dda o’u cwmpas nhw i’w hybu a’u cefnogi nhw. Mae gweithwyr ieuenctid yn chwarae rôl hanfodol a chanolog yn y rhwydwaith hwnnw, ac yn dod â’r gorau allan o bobl ifanc i’w helpu i gyrraedd eu potensial.”

 

​-DIWEDD-

http://www.wlga.cymru/youth-workers-celebrated-at-awards-to-mark-youth-work-week-2019