Bydd gweithwyr ieuenctid ledled Cymru yn cael eu cydnabod mewn seremoni gwobrwyo yn Neganwy heno (Dydd Gwener 28 Mehefin) fel rhan o Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni.
Nawr yn eu 25ain blwyddyn, bydd y gwobrau yn gyfle i roi diolch i’r gweithwyr talentog hynny sy’n gweithio gyda phobl ifanc i’w helpu nhw i ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial.
Bydd y seremoni yn cloi wythnos yn llawn digwyddiadau ar draws Cymru yn dathlu ac arddangos rôl bwysig gwaith ieuenctid yn ein cymunedau.
Yn siarad cyn y seremoni, dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Llefarydd CLlLC dros Addysg:
“Hoffwn i longyfarch pawb sydd wedi eu henwebu am wobr, ac hefyd i ddiolch i holl weithwyr ieuenctid Cymru am eu hymroddiad a chyfraniad di-flino.”
“Wedi gweithio gyda pobl ifanc fy hun fel athro am 35 mlynedd, dwi’n gwybod o brofiad sut y gall bywyd person ifanc gael ei wella trwy gael rhwydwaith dda o’u cwmpas nhw i’w hybu a’u cefnogi nhw. Mae gweithwyr ieuenctid yn chwarae rôl hanfodol a chanolog yn y rhwydwaith hwnnw, ac yn dod â’r gorau allan o bobl ifanc i’w helpu i gyrraedd eu potensial.”
-DIWEDD-