Gohirio cynlluniau Wylfa Newydd yn “bryder gwirioneddol” ar gyfer economi gogledd Cymru

Dydd Iau, 17 Ionawr 2019

Yn ymateb i’r cyhoeddiad y bydd cynlluniau ar gyfer prosiect Wylfa Newydd ar Ynys Môn yn cael eu h’atal am y tro, meddai’r Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe) Llefarydd CLlLC dros Ddatblygu Economaidd ac Ynni:

 

“Mae’r newyddion heddiw yn bryder gwirioneddol i economi gogledd Cymru ac i’r swyddi ag addawyd i bobl ifanc y rhanbarth o ganlyniad i brosiect Wylfa Newydd. O ran hyder busnes, a sicrwydd ar gyfer llawer o bobl yn y cymunedau sydd wedi eu heffeithio, mae’n bwysig bod llywodraethau Cymru a’r DU yn ymuno â llywodraeth leol ar fyrder i bwyso i oresgyn yr oediad yma.”

“Mae CLlLC yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol y gogledd, yn enwedig Cyngor Sir Ynys Môn, i gefnogi eu hymdrechion wrth wneud yr achos dros y prosiect yma sydd o bwys strategol.”  

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30