Cafodd cynhadledd ei chynnal yng Nghaerdydd y bore yma i drafod effaith yr heriau cyllid ar wasanaethau cyhoeddus.
Yn y gynhadledd, a gafodd ei chynnal ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), daeth cynrychiolwyr o amrywiol gyrff y sector cyhoeddus at ei gilydd i drafod sut i ddelio â’r pwysau ariannol difrifol parhaus ar wasanaethau cyhoeddus.
Yn ogystal â delio â’r pwysau ariannol presennol, roedd cyfle yn y digwyddiad hefyd i drafod yr effaith y mae disgwyl i Adolygiad o Wariant Cynhwysfawr Llywodraeth y DU ei chael ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Roedd gan Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, air o rybudd i’r rheini a oedd yn bresennol yn y gynhadledd:
“Rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddelio â’r cynnydd yn y galw ar wasanaethau cyhoeddus gyda llai o adnoddau.
“Roedd clywed am y ffordd bositif ac arloesol mae Llywodraeth Leol yn delio â’r ddwy her hon yn galondid mawr imi. Mae’n bwysig ein bod ni’n adeiladu ar y syniadau hyn a sicrhau bod Awdurdodau Lleol ar draws Cymru yn eu mabwysiadu.”
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton (Sir y Fflint), Dirprwy Arweinydd a Llefarydd dros Gyllid CLlLC:
"Mae cynghorau lleol yng Nghymru wedi bod yn ymwybodol ers amser nad yw hi'n bosibl mwyach i barhau â'r agwedd 'busnes fel arfer'. Maen nhw'n hen gyfarwydd â datblygu dulliau newydd, arloesol, o ddarparu eu gwasanaethau i'w helpu i ddelio â'r diffygion cyllidebol maen nhw'n disgwyl eu hwynebu erbyn 2019. Mae parhau i rannu gwybodaeth â'n trigolion a'n defnyddwyr gwasanaethau yn allweddol i'r broses hon. Rhaid iddyn nhw ddeall ein sefyllfa ariannol a goblygiadau'r cyhoeddiad sydd i ddod yr wythnos nesaf ar yr Adolygiad o Wariant i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
"Mae angen inni gyd weithio gyda'n gilydd nawr ar fyrder i ddatblygu system fwy cynaliadwy a hyblyg ar gyfer y dyfodol. Dylid seilio'r system honno ar waith parhaus y Comisiwn Annibynnol ar Gyllid Llywodraeth Leol a Panel ar Ddyfodol Cyllido, Llywodraeth Cymru. Mae’r digwyddiad heddiw yn gam cyntaf hanfodol yn y broses o feithrin y gyd-ddealltwriaeth hon."
Cafodd y rhai a oedd yn y gynhadledd glywed hefyd gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, a oedd yn rhybuddio am yr heriau sydd i ddod yn sgil yr Adolygiad o Wariant gan Lywodraeth y DU:
“Mae’n glir na fydd rhaglen Llywodraeth y DU o gyni ariannol yn dod i ben am rywfaint o amser eto. Yng Nghyllideb yr Haf, cyhoeddodd y Canghellor gynlluniau i wneud arbedion o £37 biliwn dros yr adolygiad o wariant sydd i ddod. Rydyn ni’n wynebu heriau mawr o ganlyniad, ac yn arbennig gwasanaethau allweddol yng Nghymru.
“O ystyried y rhagolygon ariannol, rhaid inni edrych nawr ar sut rydyn ni am wneud pethau’n wahanol, gan ddysgu oddi wrth ein gilydd am sut i addasu gwasanaethau i’r hinsawdd ariannol newydd.”
DIWEDD