Gweithio ar y cyd yn "hanfodol" i baratoi at ganlyniadau Brexit

Dydd Iau, 14 Chwefror 2019

Mae Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi dweud heddiw fod cyfuno ymdrechion ar draws sectorau gofal cymdeithasol ac iechyd yn hanfodol i ddygymod ag effeithiau posib Brexit.

Tra’n siarad mewn cynhadledd arbennig i gefnogi sector gofal cymdeithasol Cymru wrth baratoi at Brexit, pwysleisiodd y Cynghorydd Huw David y modd y bydd gan yr holl bartneriaid rannau allweddol i’w chwarae i liniaru effeithiau Brexit ar bobl sy’n ddibynnol ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Roedd y gynhadledd – a drefnwyd ar y cyd rhwng CLlLC, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Fforwm Gofal Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a Chyd-Ffederasiwn GIG Cymru – yn dod ag ymarferwyr, cynghorwyr a budd-ddeiliaid allweddol ynghyd i drafod effeithiau posib Brexit ar y sector iechyd a Gofal Cymdeithasol, y gwaith paratoi sy’n parhau, a chamau gweithredu pellach sydd eu hangen.

Mae’r digwyddiad yn rhan o Raglen Cefnogi Trosglwyddiad Brexit CLlLC, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Rhoddodd y gynhadledd gyfle i rannu rhai diweddariadau pwysig, gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Gofal Cymdeithasol yn cyflwyno canfyddiadau hir-ddisgwyliedig gwaith ymchwil i gyfansoddiad y gweithlu gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru; a’r Swyddfa Gartref yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar Gynllun Statws Preswylydd Sefydlog yr UE a’i ddisgwyliadau ar wasanaethau cymdeithasol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw David (Pen-y-Bont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae’n glir fod gan ymadael â’r UE y potensial i darfu ar y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gan y bydd yn effeithio ar ddyletswyddau statudol, y gweithlu a llinellau cyflenwi. Byddai Brexit anhrefnus heb gytundeb yn gwneud dim ond gwaethygu’r sefyllfa a phryderon preswylwyr sy’n derbyn gofal cymdeithasol.

“Rydw i mor falch o weld cymaint o gynrychiolwyr awdurdodau lleol, ein partneriaid allweddol ac ymarferwyr yn dod ynghyd yn y digwyddiad hwn er mwyn trafod sut y gallwn ni oll gyfrannu i liniaru rhai o effeithiau posib Brexit. Does dim amheuaeth nad yw’r cyfnod sydd o’n blaenau yn cynnig nifer o heriau i’r ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd gweithio ar y cyd yn hanfodol os am oresgyn yr anawsterau a pharhau i gynnig y gofal o ansawdd uchel a ddisgwylir gan breswylwyr.”

 

Dywedodd Vaughan Gething AC, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru:

“Cynnal gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel yw fy mlaenoriaeth pennaf wrth baratoi at bosibilrwydd Brexit heb gytundeb. Oherwydd y diffyg eglurder parhaus o du llywodraeth y DU o ran ein perthynas â’r UE yn y dyfodol, mae’n rhaid i ni barhau i baratoi ein gwasanaethau cyhoeddus at bob canlyniad posib. Dyna pam ei bod mor hanfodol fod arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol wedi dod ynghyd heddiw i asesu a cheisio mynd i’r afael â’r heriau y gallem fod yn eu hwynebu; ac i drafod sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i liniaru eu heffaith.”

 

Meddai Vanessa Young, Cyfarwyddwr Cyd-Ffederasiwn GIG Cymru:

“Mae arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i baratoi at sefyllfa o Frexit heb gytundeb. Ein blaenoriaeth yw i warchod cleifion a chleientiaid ac i gynnal gwasanaethau o ansawdd uchel.  Trwy gynlluniau ar lefel y DU, ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol, rydym yn rhoi trefniadau yn eu lle i sicrhau parhad cyflenwadau o feddyginiaethau a defnyddiau traul clinigol a ddefnyddir gan y sector iechyd a gofal cymdeithasol.   

Yn y tymor hirach, ein blaenoriaeth yw i sicrhau y gallwn gydweithio â phartneriaid i wneud y gorau o ganlyniad terfynol Brexit tra’n sicrhau y gallwn barhau i recriwtio a chadw gwladolion yr UE ar draws ein system iechyd a gofal.”

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Arweiniol ADSS Cymru ar gyfer y Gweithlu, Jonathan Griffiths:

“Fel y sefydliad arweiniol cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, rydyn ni’n croesawu comisiynu Ipsos Mori gan Lywodraeth Cymru i ddeall effaith Brexit, ym mha bynnag ffurf y bydd yn ei gymryd, ar y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.”

“Tra’r ydyn ni’n disgwyl y bydd peth effaith cyfyngedig, gan ystyried cyflogoaeth dinasyddion yr UE yn ein sector, dim ond un elfen ydyw o’r heriau ehangach o ran recriwtio a chadw staff y mae’r holl rhanddeiliaid cyhoeddus yn ymrafael â nhw.”

“Bydd datblygiad presennol o strategaeth weithlu genedlaethol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn helpu yn sylweddol i rwystro nifer o’r pwyseddau amrywiol eraill yn y sector, i sicrhau bod gan Gymru weithlu cryf, iach a wedi’i hyfforddi’n dda ar gyfer y dyfodol.”

 

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru:

“Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill ar hyn o bryd i ddeall effeithiau Brexit yn well. Mae gofal cymdeithasol yng Nghymru yn wynebu heriau recriwtio a chadw staff, a gall y rhain fod yn hyn oed yn fwy heriol os na fydd dinasyddion UE yn gallu aros a gweithio yng Nghymru, neu eu bod yn dewis i beidio gwneud hynny.”

“Mae sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn datblygu cynlluniau recriwtio ar y cyd i leihau effaith Brexit, a rydyn ni ar hyn o bryd yn  gweithio gyda chyrff rhanbarthol i arwain ymgyrch genedlaethol i ddenu, recriwtio a chadw staff. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gweithgareddau yma yn lleihau’r risg o fwy o heriau yn y gweithlu, er mwyn sicrhau bod y rheiny sydd angen gofal chefnogaeth yn gallu dibynnu ar ymateb cyson ar draws Cymru.”

-DIWEDD-


Nodiadau i olygyddion:

Mae’r digwyddiad ‘Brexit a Gofal Cymdeithasol’ yn digwydd ar ddydd Iau 14 Chwefror yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod. Disgwylir y bydd oddeutu 80 o gynrychiolwyr yn mynychu’r digwyddiad. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a rhaglen y digwyddiad yma

Mae’r digwyddiad wedi ei ariannu fel rhan o Raglen Cefnogi Trosglwyddiad Brexit ar gyfer Awdurdodau Lleol Cymru

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30