Wrth groesawu’r adroddiad gan Bwyllgor y Cynulliad ar gyfer Economi, Isadeiledd a Sgiliau heddiw, dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Llefarydd WLGA dros Ddatblygu Economi, Ewrop ac Egni:
“Rwy’n falch bod casgliadau’r pwyllgor yn debyg iawn i feddyliau WLGA ar hyn. Yn benodol, rydym yn croesawu cefnogaeth y pwyllgor dros yr egwyddor o ddatganoli pwerau priodol i’r cyrff rhanbarthol sydd yn gyrru datblygu economaidd ar draws Cymru. Rydym hefyd yn croesawu cefnogaeth y pwyllgor ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru a’r syniad o Fargen Dwf ar gyfer Canolbarth Cymru. Mae ein Fforwm Gwledig eisoes yn edrych ar ôl troed ar gyfer Bargen Wledig a fyddai’n helpu i gydbwyso ffocws trefol Bargeinion Dinesig.
“Rydym hefyd yn croesawu’r cydnabyddiaeth gan gadeirydd y pwyllgor bod tystiolaeth o gydweithio rhwng y rhanbarthau yng Nghymru. Dyma rywbeth y mae WLGA yn arbennig o awyddus i’w sicrhau ac eisoes yn darparu cefnogaeth yn nhermau cydlynu gweithgareddau datblygu economaidd yn genedlaethol. Edrychwn ymlaen i barhau â’r rôl yma, gan weithio’n agos gyda’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Seilwaith Ken Skates AC ar ran Llywodraeth Cymru, wrth iddo fabwysiadu dull rhanbarthol wrth ddarparu ei Gynllun Gweithredu newydd ar yr Economi yng Nghymru. Rydym hefyd yn edrych ymlaen i barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyfrannu i’w hymagwedd ar gyfer polisi rhanbarthol a chyllid yn enwedig yn sgil Brexit.”