Mae’r Papur Gwyn gyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Ariannol a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford AC, heddiw ynglŷn â diwygio maes llywodraeth leol wedi’i lunio yn sgîl siarad ac ymgysylltu â’r cynghorau lleol. Mae’n adlewyrchu newidiadau roedd y cynghorau eu hunain wedi’u hyrwyddo.
Meddai Arweinydd WLGA, y Cynghorydd Bob Wellington CBE (Tor-faen):
“Mae’r cynghorau lleol wedi croesawu ffordd Ysgrifennydd y Cabinet o ymgysylltu â nhw ynghyd â’i fwriad i gydweithio â nhw yn ôl egwyddorion ymddiried a pharch. Mae’r Papur Gwyn yn ychwanegu at y trafodaethau adeiladol sydd wedi digwydd ym maes llywodraeth leol ers yr hydref am gynigion Mark Drakeford i barhau â chynnydd y cynghorau lleol ynglŷn â chydweithio a threfniadau rhanbarthol.”
“Mae’r cynghorau lleol wedi ymrwymo i’r diwygio ac amlygu cynnydd sylweddol trwy, er enghraifft, ffyrdd o ddatblygu economïau rhanbarthol megis Bwrdd Uchelgais Economaidd y Gogledd, Partneriaeth Tyfu’r Canolbarth a phenderfyniadau dros yr wythnosau diwethaf hyn i gefnogi cytundebau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Rhanbarth Bae Abertawe. Mae hynny yn dangos yn eglur ein bod wedi ymrwymo ar y cyd i fynd o nerth i nerth.”
“Rhaid i’r cynghorau lleol ystyried manylion y Papur Gwyn yn ofalus bellach dros y cyfnod cyn yr etholiadau lleol, yn arbennig y gwasanaethau penodol a’r trefniadau llywodraethu sydd wedi’u hamlinellu. Bydd trafodaethau am y gwasanaethau hynny ynghyd â’r amryw ranbarthau hefyd, yn arbennig rôl Partneriaeth Tyfu’r Canolbarth yn rhanbarth ehangach y canolbarth a’r de-orllewin.”
“Er bod y cynghorau lleol o blaid rhagor o drefniadau rhanbarthol, maen nhw am ofalu y bydd modd diogelu a hyrwyddo atebolrwydd lleol eglur a democratiaeth leol. Felly, mae WLGA wedi cyflwyno tair egwyddor allweddol ddylai fod wrth wraidd trefniadau o’r fath:
- parhau i ddyrannu arian ymhlith y 22 gyngor lleol;
- gadael i’r 22 gyngor lleol gadw’r dyletswyddau statudol;
- hwyluso atebolrwydd lleol trwy gynghorwyr lleol am fod hynny’n hanfodol i ofalu bod anghenion pob bro yn cael eu diwallu a bod deilliannau’n dderbyniol.”
Mae nifer o gynigion newydd yn y Papur Gwyn megis cynrychioli cyfrannol a gadael i’r rhai 16 oed bleidleisio mewn etholiadau lleol. Fe fydd safbwyntiau cynghorwyr a phleidiau’n amrywio’n fawr o ran y cynigion hynny. Hoffai WLGA ymgynghori â’i haelodau am drefnau pleidleisio a diwygio’r broses etholiadol cyn ymateb. Fe welwn ni nad oes sylwadau am y pwnc yn y Papur Gwyn, ond bydd rhaid i dros hanner aelodau’r Cynulliad fod o blaid Mesur Cymru cyn y bydd modd diwygio proses etholiadol y sefydliad hwnnw.
Hoffai WLGA gydweithio â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill wrth ystyried y materion hyn yn fanylach. Edrychwn ni ymlaen at ragor o drafodaethau adeiladol – un o nodweddion y cyfnod diwethaf – gydag Ysgrifennydd y Cabinet.
DIWEDD
- Papur Gwyn ar Ddiwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad - Yma
- Datganiadau'r i'r Wasg Llywodraeth Cymru - Yma