Mae WLGA yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno mesur a fyddai’n gwrthdroi effaith Deddf Undebau Llafur Llywodraeth San Steffan.
Sefydlodd Llywodraeth San Steffan y llynedd Ddeddf yr Undebau Llafur sy’n dweud na fydd streic yn gyfreithlon yn y gwasanaethau cyhoeddus oni phleidleisiodd hyn a hyn o weithwyr drosti. At hynny, bydd y ddeddf yn cadw golwg ac yn cyfyngu ar weithgareddau’r undebau llafur ynglŷn â chynorthwyo’r gweithlu.
Meddai’r Cynghorydd Peter Rees (Castell-nedd Port Talbot), Llefarydd Cyflogaeth WLGA:
“Mae’n perthynas ni â’r undebau llafur ym mhob bro ac yn genedlaethol wedi bod yn dda dros y blynyddoedd, ac mae’r ffaith na fu llawer o streiciau ym maes llywodraeth leol Cymru dros y degawd diwethaf yn dangos hynny. Rydyn ni’n parchu gwaith yr undebau llafur a hawliau eu haelodau, a hoffen ni ymgysylltu’n adeiladol â nhw i gynnal gwasanaethau lleol Cymru. A ninnau’n cynrychioli’r cyflogwyr ym maes llywodraeth leol, rydyn ni’n croesawu mesur Llywodraeth Cymru a fydd yn adfer nifer o hawliau yr ymdrechodd undebau llafur yn galed i’w hennill.”
“Mae awdurdodau lleol Cymru wedi ceisio ymgysylltu’n fuddiol bob amser â’r undebau llafur i ofalu bod y gweithlu’n gallu cynnig gwasanaethau hanfodol mae miloedd o bobl yn dibynnu arnyn nhw bob dydd.”
Mae aelodau WLGA yn cynnwys awdurdodau lleol, awdurdodau gwasanaethau tân ac achub ac awdurdodau parciau cenedlaethol. Byddai mesur Llywodraeth Cymru yn effeithio arnyn nhw trwy gadarnhau na fydd rhai rhannau o ddeddf San Steffan yn berthnasol mwyach.
DIWEDD