WLGA yn croesawu Adroddiad Adolygiad Seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol

Dydd Mawrth, 16 Ionawr 2018

Mae WLGA yn croesawu cyhoeddi Adroddiad yr Adolygiad Seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r adolygiad wedi mabwysiadu dull systemau cyfan o asesu sut y gallai systemau iechyd a gofal cymdeithasol sicrhau canlyniadau iechyd a llesiant gwell ar gyfer pobl ledled Cymru, lleihau anghydraddoldeb, a sicrhau bod y system iechyd a gofal cymdeithasol yn gynaliadwy dros y pump i ddeng mlynedd nesaf. Hefyd, mae’r adolygiad wedi argymell rhai camau gweithredu clir sydd angen eu rhoi ar waith i wireddu’r weledigaeth hon. 

Mae Llywodraeth Leol wedi croesawu cyhoeddi’r Adolygiad fel cyfle i ystyried dyfodol hirdymor iechyd a gofal cymdeithasol, a sut y gallwn greu system iechyd a gofal cymdeithasol gynaliadwy wedi’i hariannu’n briodol sy’n ddi-dor ac yn canolbwyntio ar anghenion dinasyddion. Bydd hyn yn ganolog i’r broses o ddatblygu dull gweithredu newydd yng Nghymru sy’n addas i genedlaethau’r dyfodol.

Mae’r Adolygiad yn dadlau bod angen newid y system iechyd a gofal bresennol yng Nghymru yn sylfaenol er mwyn sicrhau ei bod yn grymuso unigolion i wneud penderfyniadau ac yn teilwra gofal i anghenion a dewisiadau unigolion. Hefyd, mae’n nodi bod angen i’r system fod yn fwy rhagweithiol ac ataliol, gan sicrhau bod gwasanaethau ar gael mor agos â phosibl i gartrefi pobl, a’u bod yn ddi-dor ac o’r safon uchaf. 

 

Wrth ymateb i’r adolygiad, meddai’r Cyng. Huw David (Penybont ar Ogwr), Llefarydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol WLGA:

“Does dim amheuaeth bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi wynebu heriau enfawr dros y blynyddoedd diwethaf, ac y bydd hynny’n parhau yn y dyfodol yn sgil y galw cynyddol a’r disgwyliadau uwch. Yma yng Nghymru, mae gennym gyfle a dyletswydd i greu system iechyd a gofal cymdeithasol gynaliadwy sydd ei hangen ar bobl Cymru ac sy’n deilwng ohonynt. Mae’r adroddiad hwn yn gyfle i ni fynd ati o’r newydd i drafod y fframwaith a fydd yn sylfaen i’r broses o wneud penderfyniadau pwysig am ddyfodol ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Cafodd y system bresennol ei chynllunio bron i wyth deg o flynyddoedd yn ôl pan oedd bywyd yng Nghymru a gweddill y DU yn wahanol iawn. Mae’n rhaid gweithredu’n gyflym er mwyn newid y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru o fod yn system sy’n canolbwyntio ar driniaeth i system integredig sy’n seiliedig ar atal ac ymyrryd yn gynnar, fel mae’r adroddiad yn ei nodi.”

“Fodd bynnag, un her uniongyrchol yw’r angen am lefelau priodol o gyllid a model cyllido hirdymor i gefnogi’r system iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cael ei hamlinellu yn yr adroddiad. Mewn gwirionedd, heb gyllid digonol a buddsoddiad newydd mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol, ni fydd y newidiadau sy’n cael eu hamlinellu yn yr adroddiad hwn yn ddigon i sicrhau system iechyd a gofal gynaliadwy. Mae angen arweinyddiaeth gadarn ar bob lefel ac rwy’n hyderus y bydd llywodraeth leol yn helpu i arwain a chyflwyno’r newidiadau gofynnol.”

 

Meddai’r Cyng. Susan Elsmore (Caerdydd), Dirprwy Lefarydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol WLGA:

“Ledled y DU mae’r system bresennol yn wynebu her yn sgil y twf yn y boblogaeth a’r nifer cynyddol o bobl hŷn â salwch hirdymor a chymhleth sy’n byw’n hirach oherwydd datblygiadau meddygol. Mae yna berygl na fydd y system iechyd a gofal cymdeithasol bresennol yn gallu ymdopi oherwydd y demograffeg hwn."

“Mae’r ddadl o blaid newid a amlinellir yn yr Adolygiad yn un hynod gryf, ac mae angen gweledigaeth glir ac unedig ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol yn ei chyfanrwydd. Er mwyn gwella iechyd a llesiant pobl Cymru, mae’r adroddiad yn nodi’n glir bod angen arweiniad cryfach er mwyn cyflymu sut mae’r system iechyd a gofal cymdeithasol yn addasu i anghenion newidiol y boblogaeth a’r heriau mawr. Er mwyn datblygu system iechyd a gofal sydd wedi’i chyfuno’n effeithiol, mae’n rhaid sicrhau bod yr hyn sy’n galluogi ac yn sbarduno newid yn cydweithio ledled y system iechyd a gofal cymdeithasol yn ei chyfanrwydd. Fodd bynnag, oherwydd effaith gyson cyni ariannol, hyd yn hyn mae ceisio mynd i’r afael â’r problemau hyn trwy ddiwygio’r system wedi bod yn seiliedig ar geisio gwella gwerth am arian a gwneud penderfyniadau buddsoddi doethach. Mae’n hanfodol bwysig nawr i ni edrych ar ganfyddiadau’r adolygiad a chydweithio â’n partneriaid allweddol er mwyn ystyried sut y gallwn wireddu’r weledigaeth a chyflawni’r amcanion allweddol”.

 

Meddai’r Cyng. Geraint Hopkins (Rhondda Cynon Taf), Dirprwy Lefarydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae’r newidiadau demograffig yng Nghymru sydd wedi’u hamlinellu yn adroddiad yr Adolygiad yn arwyddocaol. Er mwyn ymateb i’r effeithiau posibl, mae angen gwneud nifer o ddewisiadau dewr a gweithredu arnynt. Rydym yn wynebu her enfawr ac mae’n rhaid i ni ymateb yn ddi-oed. Er bod y rhan fwyaf o’r Adroddiad yn canolbwyntio ar effaith y system ar oedolion a phobl hŷn yn benodol, mae’n bwysig bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer plant a phobl ifanc hefyd yn cael eu cynnwys mewn unrhyw raglen drawsnewid sy’n cael ei rhoi ar waith.”

“Yn y gorffennol, nid yw adolygiadau tebyg wedi’u rhoi ar waith yn llawn yn ymarferol. Yng nghyd-destun cyni ariannol cyson, mae angen cydweithio trawsbleidiol er mwyn sicrhau bod argymhellion yr Adolygiad yn ystyrlon a bod modd eu rheoli a’u gweithredu yn unol ag amserlen resymol. Hefyd, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i fuddsoddi’r adnoddau sydd eu hangen mewn iechyd a gofal cymdeithasol fel partneriaid cyfartal.”

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30