Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, â’r cynghorwyr sy’n gyfrifol am addysg ym mhob awdurdod lleol ddydd Gwener diwethaf. Ysgolion cefn gwlad oedd un o’r materion a drafodwyd. Yng ngoleuni’r drafodaeth honno, bydd yr awdurdodau lleol yn croesawu’r bwriad i newid Côd Trefnu’r Ysgolion, y pwyslais ychwanegol ar ymgynghori â chymunedau lleol a’r cyfle i drafod diffiniad cyson o ‘ysgol wledig’ ac ‘ysgol fechan’.
Mae WLGA yn croesawu’r cyhoeddiad y bydd cymorth i alluogi ysgolion i sefydlu ffederasiynau lle bo’n briodol. Gofynnodd WLGA am hynny yn ei maniffesto ddechrau 2016 ac mae o’r farn y bydd yn galluogi ysgolion i gynnig cwrícwlwm eang a gweithredu’n effeithlon o safbwynt ariannol. Bydd cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg bod bwriad i roi cymorth ar gyfer arwain ysgolion cefn gwlad a neilltuo £2.5 miliwn ychwanegol ar eu cyfer yn galluogi’r ysgolion hynny i lunio ffyrdd arloesol o gynnig addysg yng nghefn gwlad.
Mae tipyn o amrywio ynglŷn â faint o ysgolion gwledig sydd yn ardal pob awdurdod lleol ac, felly, bydd y bwriad i gynnwys ‘rhagdybiaeth na chaiff ysgolion gwledig eu cau’ yn y côd diwygiedig yn effeithio’n wahanol ar y modd mae pob awdurdod yn trefnu ei ysgolion. Felly, bydd angen i WLGA drafod y cynnig hwn gyda’i haelodau ac ystyried profiad Lloegr lle mae polisi tebyg.
Diwedd
Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford 029 2046 8615 / 07900 240939