CLILC

 

CLlLC yn rhannu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu mwy o dai fforddiadwy

  • RSS
Dydd Mercher, 10 Gorffennaf 2019 Categorïau: Newyddion Tai
Dydd Mercher, 10 Gorffennaf 2019

Mae CLlLC wedi croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adolygiad Annibynnol i’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy, a wnaeth adrodd ym Mai 2019.

 

Yn ymateb i ddatganiad y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol, Julie James AC, dywedodd y Cynghorydd Andrea Lewis (Abertawe), Llefarydd CLlLC dros Dai:

“Mae cynghorau yn rhannu uchelgais y Llywodraeth i gynyddu’n sylweddol y cyflenwad o dai fforddiadwy ar draws Cymru; mae’r cynlluniau uchelgeisiol a darpariaeth lwyddiannus o dai cyngor newydd gan nifer o awdurdodau lleol yn arddangos yr ymrwymiad hynny.”

“Bydd rhoi mynediad i awdurdodau i gyllid grantiau Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf i gefnogi darpariaeth rhaglenni hyfyw yn helpu i allu adeiladu mwy o gartrefi ar raddfa fwy ac yn fwy cyflym. Rydyn ni’n croesawu’r ffaith y bydd cyhoeddiad ar bolisi rent yn cael ei wneud cyn egwyl yr haf, ac mae’n addawol y bod yn ymddangos y bydd y polisi yn cynnig sicrwydd am y bum mlynedd nesaf.”

“Mae awdurdodau lleol yn edrych ymlaen i weithio gyda Llywodraeth Cymru, LCCau a rhanddeiliaid eraill wrth gynllunio’n fanwl a gweithredu’r newidiadau i drefniadau grant presennol ac i gymryd ymlaen argymhellion eraill yr adolygiad.”

“Bydd awdurdodau cynllunio lleol yn sicrhau bod y mentrau newydd yma yn cael eu hadlewyrchu yn y rownd nesaf o Gynlluniau Datblygu Lleol sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd.”

 

-DIWEDD-

 

 

http://www.wlga.cymru/wlga-shares-welsh-government-commitment-to-build-more-affordable-houses-