Ymateb CLlLC i ddatganiad yr Ysgrifennydd Cabinet

Dydd Mercher, 18 Gorffennaf 2018

Wrth groesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar ddiwygio Llywodraeth Leol, dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), arweinydd CLlLC:

 

"Mae'r dull hwn o fynd â'r mater o ddiwygio Llywodraeth Leol ymlaen i'w groesawu. Mae safbwynt Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn glir. Rydym yn gwbl gefnogol i unrhyw gynghorau sy'n dymuno uno'n wirfoddol neu'r rhai sydd am weithio ar y lefel ranbarthol ehangach mewn cydweithrediad i ddarparu gwasanaethau a bydd y grŵp hwn yn ystyried y cymorth posibl a allai fod ar gael pe bai cynghorau'n dewis uno. "

"Y pwynt allweddol yw nad yw strwythurau'n cyflawni cynaliadwyedd, ond adnoddau a thrawsnewid gwasanaethau. Mae'n hanfodol hefyd ein bod yn trafod sylfaen adnoddau cynghorau er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ariannol. Gan fod yr argyfwng presennol mewn cynghorau sir fawr yn Lloegr yn dangos nad yw llymder yn parchu maint yn arbennig o ganlyniad i gost gynyddol gofal cymdeithasol."

"Mae ffurfio'r cyd-weithgor hwn felly yn amserol i fynd i'r afael â materion o'r fath, ac yn cryfhau'r sylfaen ddemocrataidd a'r pwerau sydd ar gael i gynghorau."   

DIWEDD

 

https://gov.wales/newsroom/localgovernment/2018/next-steps-to-strengthen-local-government-announced/?skip=1&lang=cy

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30