Ymateb WLGA i'r 'map newydd'o gynghorau

Dydd Mercher, 17 Mehefin 2015

Cyn ei chynhadledd flynyddol yn Abertawe yfory, mae WLGA wedi ymateb i’r map sydd wedi’i gyhoeddi ynglyn â threfn arfaethedig cynghorau lleol y wlad.

Trwy gyhoeddi map ac arno wyth neu naw cyngor lleol, mae Llywodraeth Cymru wedi cadw at ei haddewid i gyflwyno ei syniadau cyn gwyliau’r haf.

Mae’r cynigion hyn yn ychwanegu at yr amryw fapiau a dewisiadau sydd yn Adroddiad Williams, heb roi rhagor o eglurhad na sicrwydd, fodd bynnag.

Er bod cydnabyddiaeth eang y bydd rhaid trawsffurfio sector cyhoeddus Cymru yn fawr, mae’n ymddangos nad oes cydsyniad gwleidyddol am newidiadau, yn arbennig ymhlith yr amryw bleidiau yn y Cynulliad. Does dim cydsyniad rhwng Llywodraeth Cymru a byd llywodraeth leol am ffurfiau cynghorau lleol y dyfodol, chwaith.

Heb gytundeb, fydd dim byd yn digwydd cyn etholiad y Cynulliad fis Mai 2016, a bydd llawer yn dibynnu ar gynnwys maniffesto pob plaid ar gyfer yr etholiad hwnnw.  Hyd yn oed pe bai’r llywodraeth nesaf yn ymrwymo i ad-drefnu’r cynghorau lleol, fyddai dim modd gwneud hynny cyn 2020, o leiaf.  Felly, mae’n debyg y bydd ansicrwydd ymhlith y rhai sy’n cynnal gwasanaethau lleol a’r rhai sy’n eu defnyddio yn parhau.

Yn ystod yr ansicrwydd hwnnw, bydd cynghorau lleol yn wynebu talcen caled am bum mlynedd ychwanegol gan fod gofyn i gynnal gwasanaethau o’r radd flaenaf er y bydd llai a llai o arian ar eu cyfer. Mae cryn dipyn o bryder o hyd achos nad yw’r map yn tawelu meddyliau trethdalwyr y cynghorau. Gallai biliau godi’n fawr heb unrhyw ffordd eglur o gysoni treth cynghorau.

Meddai’r Cynghorydd Bob Wellington CBE (Tor-faen), Arweinydd WLGA:

“Gofynnwn ni heddiw i Lywodraeth Cymru gydweithio’n agos ag WLGA trwy drefnu i’r uwch weinidogion gwrdd ag arweinyddion y 22 gyngor lleol yn ddiymdroi a thrafod sut y dylen ni ad-drefnu maes llywodraeth leol.  Yn ogystal â thrafod y strwythurau priodol, bydden nhw’n pennu delfryd newydd i’r cynghorau lleol, sy’n ysgwyddo’r rhan fwyaf o faich toriadau cyllidebol y sector cyhoeddus ar hyn o bryd.”

“Mae cynaladwyedd y cynghorau lleol yn y fantol dros y tair blynedd nesaf, ac mae’n bryd ystyried pob dewis o ran diwygio gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys cyfuno gofal iechyd a chymdeithasol mwyfwy, rhyddhau cynghorau rhag biwrocratiaeth wladol a grymuso cymunedau lleol trwy eu cynghorau.”

Meddai’r Cyng. Hugh Evans (Sir Ddinbych), Arweinydd y Cylch Annibynnol:

“A’r caledi difrifol yn parhau, mae’r ad-drefnu yma yn y fantol o hyd.  Fydd ddim yn ein helpu i ymdopi â’r toriadau a ddaw dros y cyfnod gwario nesaf – £900 miliwn, o bosibl.”

“At hynny, mae ymchwil Sefydliad Breiniol Cyllid a Chyfrifeg y Wlad (CIPFA) yn dangos y gallai ad-drefnu fynnu £268 miliwn ac y byddai angen tair blynedd ychwanegol cyn dechrau arbed £65 miliwn y flwyddyn.  Allwn ni ddim arbed yr un costau ddwywaith ac, felly, fydd dim modd arbed rhagor trwy ad-drefnu’r cynghorau lleol yn sgîl y cyfnod gwario nesaf.  Dyw hi ddim yn eglur sut mae talu am yr ad-drefnu.”

“Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cydnabod pwysigrwydd newid trawsffurfiol gan gydio’n llawn ym mhroses yr ad-drefnu trwy gyflwyno’r unig gynnig i gyfuno o’n gwirfodd sy’n cyd-fynd â map Adroddiad Williams.  Mae’r cynigion yma’n cadarnhau inni wastraffu tipyn o amser ac adnoddau ar hynny.  Gan fod map newydd wedi’i gyhoeddi eto, does dim hyder gennyn ni yn y broses.”

Meddai’r Cyng. Dyfed Edwards (Gwynedd), Arweinydd Cylch Plaid Cymru:

“Rydw i wedi gofyn o’r blaen i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â’r ad-drefnu yn gyflym am fod y drefn bresennol yn prysur ddirywio.  Yn y sefyllfa sydd ohoni, mae’n fwyfwy anodd i gynghorau gynnal gwasanaethau o achos toriadau.  Yn anffodus, wela’ i ddim tystiolaeth heddiw y bydd unrhyw fap newydd yn cael ei gyflwyno’n ddiymdroi.  Mae’n ymddangos bellach mai rhywbeth i’w drafod ym maniffesto pob plaid ar gyfer etholiad 2016 y Cynulliad fydd y pwnc yma, gan alluogi’r pleidleiswyr i fynegi eu barn amdano.”

Meddai’r Cyng. Peter Fox (Sir Fynwy), Arweinydd Cylch y Ceidwadwyr:

“Mae’n amlwg i bawb bod proses ad-drefnu’r cynghorau lleol wedi cyrraedd y gors am fod anghytuno ymhlith gwleidyddion o bob plaid.  Yn y bôn, dim ond cip ar faniffesto Plaid Llafur ar gyfer etholiad y Cynulliad yw’r map yma.  Mae bron yr un fath â threfn y 1990au gan gynnig fawr ddim i ateb heriau presennol y cynghorau lleol bob dydd.”

“Mae Cylch Ceidwadwyr WLGA o’r farn bod rhaid rhoi’r ffidil yn y to bellach a throi ein holl sylw at ymdopi â chyllidebau sy’n prysur grebachu trwy drawsffurfio ein ffordd o gynnal gwasanaethau.  Dylen ni ganolbwyntio ar wella a hybu twf yr economi a chreu cyfleoedd i bawb yn hytrach nag ad-drefnu cadeiriau ar y llwyfan wleidyddol.”

“Mae’r syniad bod cyrff mawr yn fwy effeithlon wedi’i brofi’n un gwallus o safbwynt damcaniaethol ac ymarferol fel ei gilydd.  Mae’r bobl yn mynnu cynghorau lleol effeithlon sy’n cael eu rheoli’n dda, yn atebol i drigolion y fro ac yn cael penderfynu ar faterion perthnasol.  Hoffen ni weld atebolrwydd lleol wrth wraidd y gwasanaethau cyhoeddus, nid cyrff biwrocrataidd enfawr sy’n cynnal gwasanaethau o hirbell.”

DIWEDD

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni
   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd, CF10 4LG

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30