Gan ymateb i ddatganiad Prif Weithredwr Iceland Food (Malcolm Walker) mai cynghorau, ysgolion ac ysbytai sydd ar fai am sgandal y cig ceffyl, meddai Prif Weithredwr WLGA, Steve Thomas:
“Yn y bôn, diben sylwadau prif weithredwr cwmni Iceland yw annog pobl i fynd ar ôl sgwarnog. Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd diwydiant manwerthu'n bwyd ni ei fod yn bwriadu datrys y broblem. Ymddiheurodd Peter Marks, Prif Weithredwr y Co-operative Supermarket Group, am sgandal y cig ceffyl a dweud bod rhaid i'r siopau dderbyn yr holl gyfrifoldeb amdano a cheisio adennill ymddiried eu cwsmeriaid. Dadleuodd y dylai manwerthwyr wynebu eu cyfrifoldebau moesol a chyfreithiol am yr hyn sydd ar werth yn y siopau a chael trefn ar bethau yn sgîl y sgandal. Mae'r gyfraith yn dweud yn eglur mai cyfrifoldeb y cynhyrchwyr, y cyflenwyr a'r manwerthwyr yw gofalu bod cynnwys popeth sydd ar werth yn cyd-fynd â'u disgrifiad ohono.”
Ychwanegodd Mr Thomas:
“Mae'r datganiad yma gan gwmni blaengar wedi'i atgyfnerthu gan Ms Catherine Brown, Prif Weithredwr Asiantaeth y Safonau Bwyd, a ddywedodd mai'r diwydiant sy'n gyfrifol am gywiro hyn – nid llywodraethau – a'i bod hi o'r farn bod rhaglen brofi drylwyr ym mhob rhan o gadwyn cyflenwi'n bwyd ac ym mhob sector yn hanfodol ynglŷn â mynd i'r afael â'r broblem yma.
Barn byd llywodraeth leol, yn arbennig trwy waith monitro hanfodol ein harbenigwyr ni ym maes safonau masnach, yw bod methiant sylweddol yng nghadwyn y cyflenwi. Nid y cwsmeriaid, y cynghorau na'r ysbytai sydd ar fai am hynny. Rhaid i'r cwmnïau sy'n gwerthu bwyd dderbyn cyfrifoldeb a mynd ati i osod trefn ar eu tŷ. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n gwneud hynny ac fe ddylai cwmni Iceland wneud yr un fath.”
DIWEDD