Arweinydd CLlLC yn annog cynghorwyr i sefyll yn erbyn bygythiadau ac ymosodiadau mewn bywyd cyhoeddus

Dydd Mercher, 03 Gorffennaf 2019

Mae Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), y Cynghorydd Debbie Wilcox, wedi rhybuddio heddiw am y cynnydd mewn bygythiadau a cham-drin aelodau etholedig.

Yn siarad yng nghynhadledd flynyddol y Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) yn Bournemouth, amlinellodd y Cynghorydd Wilcox sut y mae rhethreg wleidyddol a oedd unwaith yn cael ei ystyried yn eithafol, bellach yn “gynyddol yn dod i’r amlwg”.

 

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox (Casnewydd):

“Mae cam-drin a bygwth gweision cyhoeddus yn annerbyniol, boed hynny ar-lein neu yn y stryd, a ni ddylai gael ei oddef. Mae cynghorwyr yn bobl ymroddgar iawn sydd yn buddsoddi amser, egni ac emosiwn i wasanaethu eu cymunedau â’r cyhoedd.

“Pan ydyn ni’n siarad am fwlio neu fygwth, nid dim ond troliau di-enw ar-lein neu drigolyn blin sydd yn croesi’r llinell unwaith yn rhy aml. Nid dim ond y cwmnïau cyfryngau cymdeithasol a fyddai’n gallu rheoleiddio eu hunain yn well, neu’r cyfryngau a fyddai’n gallu ymarfer gwell reolaeth golygyddol.

“Mae angen i ni hefyd edrych arnom ein hunain fel gwleidyddion hefyd. Mae angen i ni edrych i’n gwleidyddion cenedlaethol a phleidiau cenedlaethol am y dôn a’r arweinyddiaeth sy’n cael ei osod ganddyn nhw. Ond rhaid i ni edrych arnom ni ein hunain fel cynghorwyr ac arweinwyr hefyd.

“Pa ymddygiadau, diwylliant a safonau ydyn ni’n eu gosod a’u goddef o fewn ein siambrau ac o fewn ein grwpiau gwleidyddol? Yr unig ffordd yr allwn ni newid pethau yw os y gwnawn ni ail-adeiladau ymddiriedaeth mewn llywodraeth a gwleidyddiaeth o lawr gwlad i fyny, gyda chynghorau chynghorwyr yn darparu’r seiliau.”

 

Yn ymateb i bryderon aelodau, mae canllaw ar-lein wedi cael ei ddatblygu ar y cyd gan CLlLC ac LGA i argymell rhai camau y gall cynghorau a chynghorwyr eu cymryd i amddiffyn eu hunain fel pobl yn llygaid y cyhoedd, a sut i ymateb pan mae rhywbeth yn digwydd. Mae’r canllaw ar gael ar: https://www.local.gov.uk/councillors-guide-handling-intimidation

 

-DIWEDD-

 

Nodiadau i Olygyddion

 

1.    Bu’r Cynghorydd Debbie Wilcox yn siarad yng Nghynhadledd Flynyddol LGA yn Bournemouth ar Ddydd Mercher 03 Ebrill

 

2.    Gellir gweld adroddiad y Cynulliad Cenedlaethol ar Amrywiaeth mewn Llywdoraeth Leol, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2018, yma: http://www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld12488/cr-ld12488-e.pdf

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30