Bydd WLGA yn hwyluso trafodaeth am sut y gallai llyfrgelloedd lleol gael eu diogelu a pharhau’n berthnasol i gymunedau ledled Cymru.
Mae’r llyfrgelloedd lleol wedi cyflawni rôl ddiwylliannol ac addysgol uchel ei pharch yng nghymunedau’r wlad ers dros 150 mlynedd ond, o ganlyniad i’r sefyllfa ariannol fwyfwy gwaeth a’r galw cynyddol am wasanaethau, mae’r rôl honno o dan sylw manwl bellach.
Diben y drafodaeth heddiw yw dod â gwleidyddion a sefydliadau perthnasol Cymru at ei gilydd i ystyried ffyrdd newydd o gynnig gwasanaethau a datrys problemau fel y gall cynghorau barhau i ddatblygu a diogelu eu llyfrgelloedd yn y dyfodol.
Meddai’r Cyng. Hedley McCarthy, Llefarydd WLGA dros Faterion Diwylliannol:
“Mae’r cynghorau lleol yn ystyried ffyrdd newydd o gynnig gwasanaethau’r llyfrgelloedd lleol er mwyn helpu i ofalu y bydd y cyfleusterau gwerthfawr hynny’n berthnasol o hyd i’n cymunedau dros amser maith i ddod. Hoffwn i ddiolch i Mike Hedges AC am noddi’r drafodaeth bwysig yma gan fod llawer o bwysau ar y llyfrgelloedd ar hyn o bryd.”
“Mae’r drafodaeth yma’n cynnig cyfle gwych i ystyried atebion newydd fydd yn galluogi llyfrgelloedd lleol i gyflawni eu rôl draddodiadol yn ein cymunedau yn ogystal â chynnig amrywiaeth helaeth o wasanaethau digidol a chymunedol newydd. Fydd dim modd inni barhau i wneud popeth yr un fath. Felly, rhaid ystyried dewisiadau megis cydweithio, rhoi amryw wasanaethau trwy’r un ganolfan a defnyddio rhagor o weithwyr gwirfoddol wrth geisio cynnal llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru.”
Meddai Mike Hedges AC:
“Mae’r llyfrgelloedd yn rhan o drefn addysg y wlad gan alluogi plant nad oes cyfrifiadur gyda nhw gartref i ddefnyddio’r Rhyngrwyd wrth astudio. At hynny, mae’n rhoi cyfle i’r rhai sy’n dioddef ag unigedd – megis yr henoed – gwrdd â phobl.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
• Bydd yr achlysur ddydd Mercher 29ain Ebrill 2015 rhwng 12:15 ac 1:20 yn Ystafell Gynadledda 24, TÅ· Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
• Dyma’r rhai fydd yn siarad yno: Mike Hedges AC (Llafur Cymru), Suzy Davies AC (Ceidwadwyr Cymru), Rhodri Glyn Thomas AC (Plaid Cymru), Peter Black AC (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) a’r Dirprwy Weinidog dros Faterion Diwylliannol, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates AC. Y Dr Chris Llewelyn, Cyfarwyddwr WLGA dros Faterion Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth fydd yn llywio’r drafodaeth.
• Mae dau adroddiad pwysig am lyfrgelloedd lleol Cymru wedi’u cyhoeddi yn ddiweddar: CELG Committee’s Inquiry into Public Libraries a’r Expert Review into Public Libraries in Wales.