CLILC

 

CLlLC a Data Cymru yn llwyddo i gyrraedd statws Ymwybodol o Awtistiaeth

  • RSS
Dydd Mawrth, 09 Ebrill 2019 Categorïau: Newyddion Tîm Datbygu ASA Cenedlaethol
Dydd Mawrth, 09 Ebrill 2019

Mae sefydliadau CLlLC a Data Cymru wedi llwyddo i gyrraedd statws ‘Ymwybodol o Awtistiaeth’ yn dilyn cwblhau rhaglen o hyfforddiant gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol.

Er mwyn i sefydliad lwyddo i gyrraedd statws ‘Ymwybodol o Awtistiaeth’, mae’n rhaid iddo fod wedi dangos ei ymroddiad i sicrhau bod cyfran sylweddol o’i aelodau staff wedi ymgymryd gyda, a chyflawni’r rhaglen Dystysgrif Ymwybodol o Awtistiaeth.

Amcangyfrifir bod 1 o bob 100 o bobl yn awtistig. Bydd cofrestru fel sefydliad sy’n Ymwybodol o Awtistiaeth yn cefnogi pobl awtistig i allu cael gwell mynediad i’w gwasanaethau, ac hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth aelodau staff o’r cyflwr.

 

Dywedodd Dr Chris Llewelyn, Prif Weithredwr CLlLC:

“Dwi’n falch iawn bod CLlLC wedi llwyddo i gyflawni yr ymrwymiad o ddod yn sefydliad sy’n Ymwybodol o Awtistiaeth. Roedd yr hyfforddiant a ddarparwyd i staff gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn ddefnyddiol ac yn ymarferol i wella dealltwriaeth o’r cyflwr ac i’n gwneud ni’n ymwybodol o’r camau bach y gallwn ni i gyd eu cymryd i wneud ein cyfathrebiadau o ddydd-i-ddydd yn fwy hygyrch a chynhwysol. Byddwn i’n argymell unrhyw sefydliad â diddordeb i fod yn Ymwybodol o Awtistiaeth i gysylltu â’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol.”

 

Dywedodd Andrew Stephens, Cyfarwyddwr Gweithredol Data Cymru:

“Penderfynom ni i gynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth fel rhan o’n cynllun datblygu staff ar gyfer 2018-19. Fe wnaeth ein staff ganfod yr hyfforddiant yn ddefnyddiol iawn, gyda llawer ohono yn berthnasol yn uniongyrchol i’n ffordd ni o ddelio gyda chwsmeriaid a chydweithwyr/

“Rydyn ni’n falch iawn i allu dweud bod ein staff ni yn ‘Ymwybodol o Awtistiaeth’. Y cam nesaf i ni yw cwblhau’r cynllun Adnoddau Dynol i gael ein cydnabod fel bod yn ‘Bositif am weithio gydag Awtistiaeth’.”

 

I ganfod mwy am y cynllun Ymwybodol o Awtistiaeth, ewch i www.asdinfocymru.co.uk.

http://www.wlga.cymru/wlga-and-data-cymru-achieve-autism-aware-status