Cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Grant Byw'n Annibynnol Cymru

Dydd Mawrth, 12 Chwefror 2019

Yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru, dywedodd y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mewn cyfnod o lymder, mae unrhyw gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol i’w groesawu a rwy’n falch gweld ymrwymiad o fuddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a fydd yn sicrhau bod anghenion cyn dderbynwyr Grant Byw Annibynnol Cymru (GBAC) yn cael eu cwrdd yn llawn.

“Bydd awdurdodau lleol yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ateb unrhyw bryderon am ddarparu’r GBAC, sydd wedi cael ei ymgymryd gan gynghorau yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru.

“Mae awdurdodau lleol wedi ymrwymo i wneud popeth posib i gefnogi pobl anabl i fyw bywydau mor annibynnol a phosib. Byddwn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y rheiny sydd wedi cael eu heffeithio yn gallu cael mynediad i asesiad annibynnol mor fuan a phosib.

 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Arweinydd CLlLC:

“Mae awdurdodau lleol yn cynnig ystod o wasanaethau allweddol sydd yn helpu i gefnogi pobl anabl i fyw bywydau annibynnol a sy’n hybu llesiant. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i edrych eto ar y Grant i weld sut orau i’w ddarparu i dderbynwyr.

“Mae sefyllfaoedd o’r fath yn codi pan fo Llywodraeth Cymru yn datganoli cyfrifoldebau heb y cyllid angenrheidiol i weithredu’r un cynllun a oedd eisoes yn cael ei weithredu. O ganlyniad, mae trigolion y aml gyda’r un disgwyliadau ond heb yr un lefel o gyllid ag o’r blaen.

“Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, mae awdurdodau lleol yn aml yn gorfod datblygu cynlluniau newydd i gymryd mewn i ystyriaeth y cyllid sydd ar gael. Mae’n bwysig bod unrhyw gyfrifoldebau sy’n cael eu datganoli yn y dyfodol yn cael eu cyllido yn llawn i sicrhau nad ydyn ni yn cael ein gadael mewn sefyllfa i weithredu gwasanaethau gyda llai o arian pan nad yw disgwyliadau trigolion yn newid.”

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30