Ar Gymru mae'r effaith fwyaf o ran budd-daliadau

Dydd Mercher, 17 Ebrill 2013

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi mynegi pryder am gost economaidd y newidiadau yn nhrefn budd-daliadau’r Deyrnas Gyfunol, gan nodi nad oes canllawiau eglur am y modd y dylai rhai newidiadau weithredu yng Nghymru. 

Mae’n pryderu yn sgîl adroddiad ymchwil gyhoeddodd Prifysgol Hallam Sheffield, sy’n awgrymu y bydd newidiadau dadleuol Llywodraeth San Steffan yn y budd-daliadau’n cwtogi o ryw £1 biliwn ar economi Cymru ac yn effeithio’n anghymesur ar gymunedau hen ardaloedd diwydiannol cymoedd y deheubarth. 

Mae’r cynghorau wedi cael y fraint amheus nid yn unig o weinyddu rhaglen newid y budd-daliadau ond o geisio lleddfu’r effeithiau ar rai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, hefyd. Yn anffodus, maen nhw’n ei chael yn anodd gwneud hynny achos bod bylchau sylweddol yng nghanllawiau Llywodraeth San Steffan am y modd y dylen nhw roi’r newidiadau ar waith. 

Meddai’r Cynghorydd David Phillips (Abertawe), Llefarydd WLGA dros Fudd-daliadau: 

“Mae’r adroddiad diweddaraf am effeithiau economaidd diwygio budd-daliadau’r DG yn cadarnhau’n hamheuon ni. Cymunedau mwyaf difreintiedig Cymru fydd yn dioddef y mwyaf o achos ymosodiad Llywodraeth San Steffan ar drefn sydd ar waith ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, a bydd economi Cymru yn colli £1 biliwn. 

Mae’r newidiadau hyn yn amharu’n fawr ar wasanaethau’r cynghorau yn barod a bydd effeithiau cymdeithasol ac economaidd o bwys, hefyd. Bydd y taliadau newydd ynglŷn ag annibyniaeth bersonol yn effeithio ar ryw 35,000 o bobl ac yn cymryd £100 miliwn oddi wrthyn nhw. Yn ôl pob tebyg, bydd y toriad hwn – ar ffurf ‘diwygio’ – yn gyrru pobl i’r gwasanaethau cymdeithasol sydd o dan bwysau ariannol trwm eisoes o achos newidiadau yn natur y boblogaeth. 

Mae bron yn sicr y bydd newidiadau eraill megis ‘treth yr ystafelloedd gwely’ yn arwain at ragor o ddigartrefedd. Dyma ganlyniad cymdeithasol trychinebus newidiadau a allai fod yn gwbl wrthgynhyrchiol. Mae disgwyl y bydd llawer o denantiaid yn gorfod symud i dai preifat ac, os digwydd hynny, bydd costau uwch mewn rhannau eraill o’r drefn. 

Er bod llawer ohonon ni’n anghytuno â’r newidiadau hyn, yn arbennig y modd mae’r hawlwyr yn cael eu pardduo, mae cyfrifoldeb ar fyd llywodraeth leol ynglŷn â gofalu bod pobl Cymru yn gwybod beth sy’n dod, a byddwn ni’n parhau i ddarparu ar gyfer pobl fwyaf bregus ein cymdeithas ni. 

Fel sawl cyngor yng Nghymru, mae llawer o bobl wedi cysylltu â’m cyngor i ofyn am gymorth a chynghorion ynglŷn â threth yr ystafelloedd gwely. Er bod y dreth ar waith er 1af Ebrill, mae digon o fylchau yn y canllawiau o ran materion hanfodol megis eithrio a diffinio. Mae’r newidiadau wedi’u cyflwyno ar fyr rybudd heb ystyried eu heffeithiau’n llawn, ac mae byd llywodraeth leol yn pryderu’n fawr bellach am allu adrannau gwladol i ymateb i ymholiadau brys. Er mwyn cyflwyno’r newidiadau hyn yng Nghymru mewn modd cyfiawn a chyson, rhaid i Adran Gwaith a Phensiynau San Steffan wella’n fawr ei gallu i ymateb i gwestiynau manwl byd llywodraeth leol.” 

DIWEDD

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni
   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd, CF10 4LG

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30