Angen sicrwydd ar frys ynghylch ariannu rhanbarthol wedi Brexit

Dydd Gwener, 06 Gorffennaf 2018

Gyda rownd pellach o drafodaethau yn San Steffan a Chymru ar flaenoriaethau Brexit wythnos yma, mae CLlLC yn galw heddiw ar eglurder brys ar drefniadau ariannu rhanbarthol wedi Brexit i gefnogi cymunedau Cymreig.

Mae arian adfywio’r UE wedi ei ddefnyddio i gefnogi cyflogaeth, twf busnes ac adfywio economaidd cymunedau Cymreig. Mae hyn yn cynnwys y Cronfeydd Strwythurol a’r Cynllun Datblygu Gwledig yng Nghymru, ac yn flynyddol maent werth £295m a £80m yn eu trefn[1]. Yn gyfunol ag ariannu cyfatebol o ffynonellau eraill, mae hwn yn swm sylweddol o arian a fydd yn dod i ben ddiwedd 2020.

Mae Llywodraeth y DU wedi addo sefydlu Cronfa Ffyniant a Rennir y DU i gymryd lle arian cefnogaeth ranbarthol yr UE o 2021. Hyd yma, dim ond manylion bras sydd wedi eu rhannu am y gronfa arfaethedig yma.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn galw ar Lywodraeth y DU i sefydlu amserlen glir ar gyfer ymgysylltu a fyddai’n parchu’r setliad datganoledig yng Nghymru.

Meddai y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Arweinydd CLlLC

“Er bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ni bleidleisiwyd i fod yn dlotach neu fod mewn gwaeth sefyllfa.

“Mae gan gymunedau yng Nghymru eu anghenion a’u amgylchiadau unigryw eu hunain, ac mae ein rhaglenni ariannu wedi eu teilwra i wneud y gorau o unrhyw gyfleoedd economaidd a ddaw o’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae ariannu o’r fath wedi bod yn hanfodol mewn sicrhau swyddi, sgiliau, ac adfywio economaidd ar draws Gymru gyfan.

“Pe bydden ni wedi aros yn yr UE, byddai cynghorau eisoes yn cynllunio prosiectau ar gyfer y rownd nesaf o ariannu strwythurol – fel mae ein cymdogion yn Ewrop yn wneud ar hyn o bryd – ar gyfer 2021-27. Os nad ydym i bobl yng Nghymru i golli allan, mae llywodraeth leol angen eglurder ar fyrder gan Lywodraeth DU ar y Gronfa newydd yma.

“Fel rhan o ddatblygu ein polisi rhanbarthol newydd i Gymru, mae CLlLC wedi gofyn yn gyson am ffordd newydd o weithio sydd wedi ei ddatganoli yn llawn er mwyn sicrhau model sydd yn effeithiol ac yn addas i’r pwrpas o ymateb i heriau a chyfleoedd yr economi Gymreig fodern[2].” 

DIWEDD

 

NODIADAU I OLYGYDDION

Rhai o esiamplau o brosiectau mae Llywodraeth Leol yn arwain arno o fewn y rhaglenni 2014-20 presennol yn cynnwys:

  • Rheolaeth a gweithrediad lleol o brosiectau isadeiledd twristiaeth fel rhan o brosiect Cyrchfannau Twristiaeth Atyniadol Croeso Cymru
  • Datblygiad a gweithrediad safleoedd ac eiddo busnes
  • Prosiectau Sgiliau a Chyflogadwyedd Rhanbarthol a Lleol – yn cefnogi pobl i mewn i waith, gwella cyfleoedd o fewn gwaith a cefnogaeth ac ymgysylltedd pobl ifanc.
  • Rheolaeth strategol a llywodraethu partneriaethau Cynllun Datblygu Gwledig.
  • Mewn datblygu polisi rhanbarthol newydd i Gymru, mae CLlLC yn galw am:
  • Sicrhau lefelau ariannu newydd llawn, yn unol â’r addewidion wnaed cyn y refferendwm.
  • Ffordd o weithio sydd yn parchu datganoli yng Nghymru.
  • Ymrwymiad tuag at weithio mewn partneriaeth a chyd-ddylunio polisi’r dyfodol, i sicrhau fod rhaglenni’r dyfodol yn addas i’r pwrpas mewn ymateb i flaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
  • Sicrwydd cynllunio drwy ariannu aml-flynyddol. Mae angen ffordd o gefnogi buddsoddiad rhanbarthol dros y tymor hir os ydym am wireddu’r newidiadau sydd eu hangen yn yr Economi Gymreig er mwyn cynyddu cynhyrchiant a sicrhau twf economaidd hir-dymor cynaliadwy ymhob rhan o Gymru.

Mae Strwythurau Partneriaethau Rhanbarthol yn darparu’r seiliau allweddol i fedru datblygu a gweithredu’r ffordd newydd o weithio i Fuddsoddiad Rhanbarthol yng Nghymru wedi Brexit.

 

[1] Welsh Government White Paper: Securing Wales’ Future (https://beta.gov.wales/brexit)

[2] https://www.bevanfoundation.org/news/2017/10/joint-call-devolution-shared-prosperity-fund-wales/

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30