Arweinyddion cynghorau lleol y Deyrnas Gyfunol o'r un farn am ddatganoli

Dydd Iau, 06 Tachwedd 2014

Mae cynghorau lleol yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn gofyn i Lywodraeth San Steffan roi rhagor o rym i gymunedau’r Deyrnas Gyfunol.

Mae cynghorau lleol yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban wedi dod at ei gilydd i fynnu cyfarfod â Llywodraeth San Steffan yn fater o frys i ddod i gytundeb am ddatganoli ymhlith cymunedau’r Deyrnas Gyfunol.

Mewn llythyr at William Hague AS, cadeirydd y pwyllgor sy’n ystyried datganoli grym, mae cymdeithasau llywodraeth leol pedair gwlad y Deyrnas Gyfunol – sy’n cynrychioli cynghorau lleol o bob plaid wleidyddol ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban – wedi annog Llywodraeth San Steffan i gymryd cam beiddgar tuag at ffordd newydd o lywodraethu lle byddai rhagor o rym lleol ledled pedair gwlad y deyrnas.

Anfonir y llythyr at Gomisiwn Smith, sy’n ystyried datganoli rhagor o rym i’r Alban, hefyd.

Mae’r llythyr yn dadlau bod y refferendwm am ddatganoli yn yr Alban wedi dangos bod ymddiried y boblogaeth yn yr hen drefn ganolog wedi’i chwalu am byth a bod gormod o benderfyniadau sy’n effeithio ar gymunedau lleol yn dod o San Steffan, Caeredin, Bae Caerdydd a Belffast. O achos y ffordd ddrud a chanolog honno o weinyddu, fe fydd llywodraethau’n ceisio dyfalu beth sydd orau i bob cymuned, yn aml.

Mae arweinyddion y cynghorau lleol yn dweud bod cyfle unigryw gan y pwyllgor sy’n ystyried datganoli i adnewyddu democratiaeth leol a grymuso cymunedau ledled y deyrnas. Maen nhw o’r farn bod y ddadl am ddatganoli grym i seneddau cenedlaethol yn effeithio ar y drafodaeth ac yn methu â rhoi sylw i’r mater craidd, sef bod pleidiau cenedlaethol a chymunedau lleol ym mhob cwr o’r deyrnas wedi dweud yr hoffen nhw i’r drefn ddemocrataidd leol gael ei hadfywio.

A hwythau’n cynrychioli cymunedau Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, mae’r arweinyddion am gwrdd â Llywodraeth San Steffan yn ddiymdroi i gnoi cil ar sut mae adfywio democratiaeth leol yn y Deyrnas Gyfunol er mwyn datganoli grym y tu hwnt i seneddau cenedlaethol.

Eu barn nhw yw y byddai unrhyw drefn newydd sy’n diystyru’r ymwybyddiaeth leol yn y Deyrnas Gyfunol yn annhebygol o lwyddo yn y pen draw.

Mae’r llythyr yn gofyn i Lywodraeth San Steffan fynd i’r afael â thair prif egwyddor y ddadl am ddatganoli trwy:

•Gweithredu yn ôl yr egwyddor y dylai drosglwyddo cymaint o rym ag y bo modd i’r cyrff llywodraethu sy’n agosaf at y bobl.

•Diogelu a chryfhau statws llywodraeth leol yn y gyfraith, gan bennu cyfrifoldebau a phwerau sy’n berthnasol i gynghorau lleol fel y gallan nhw lunio gwasanaethau yn ôl anghenion pobl y fro.

•Rhoi rhagor o ryddid ariannol i gynghorau lleol. Mae’r ffordd bresennol o’u hariannu’n ganolog yn aneffeithlon ac yn amharu ar dwf economaidd. Bydd rhagor o gyfrifoldeb dros ariannu’n lleol yn gwella gwasanaethau lleol ac yn gofalu bod pobl a chwmnïau pob bro yn gweld a ydyn nhw’n cael gwerth eu harian.

Meddai’r Cynghorydd Bob Wellington OBE (Tor-faen), Arweinydd WLGA:

“Mae’r digwyddiadau yn yr Alban yn dangos bod ymwybyddiaeth o faterion lleol yn codi stêm yn y Deyrnas Gyfunol a bod pobl yn mynnu rhagor o ddylanwad ar wasanaethau maen nhw’n eu defnyddio a materion sydd o bwys iddyn nhw. Mae gormod o bwerau canolog o hyd yng Nghaerdydd, Caeredin, Belffast a Llundain. A ninnau’n wleidyddion lleol, rydyn ni’n gofyn am ryddid i gydweithio â’n cymunedau fel y gallwn ni adlewyrchu eu blaenoriaethau’n uniongyrchol yn y modd rydyn ni’n cynnig gwasanaethau lleol.”

“Fydd ymdrech i adennill democratiaeth leol ddim yn amherthnasol yn ystod y llymder di-ben-draw a’r atgasedd gwleidyddol sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd. Mae’n un o gonglfeini proses adnewyddu democratiaeth ledled Cymru a’r Deyrnas Gyfunol. Doedd dim bwriad erioed y dylai datganoli yng Nghymru aros ym Mae Caerdydd. Felly, mae arweinyddion y cynghorau lleol yn gofyn bellach am drefn diwygio gwasanaethau lleol fydd yn galluogi pobl i reoli natur eu bro a’r gwasanaethau maen nhw’n eu defnyddio.”

Mae’r llythyr wedi’i lofnodi gan y Cyng. Bob Wellington, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cyng. David sparks, Cadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr, y Cyng. David O’Neill, Llywydd Cymdeithas Awdurdodau Lleol yr Alban, a’r Cyng. Dermot Curran, Llywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Gogledd Iwerddon.

DIWEDD

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni
   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd, CF10 4LG

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30