Arweinyddion cynghorau'r dg dros ddatganoli

Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2015

Mae cynghorau lleol Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi dod ynghyd i fynnu i’r llywodraeth nesaf yn San Steffan amlinellu sut y byddai’n datganoli pwerau i gymunedau lleol trwy araith gyntaf y Frenhines yn ystod ei chyfnod wrth y llyw.

Cyhoeddodd cymdeithasau cynghorau lleol pedair gwlad y Deyrnas Gyfunol ddatganiad ddoe gan ofyn i wleidyddion gydio yn y cyfle i adfywio trefnau democrataidd lleol.

Dyma’r rhai lofnododd y datganiad: Y Cyng. David Sparks (Cadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr), y Cyng Aaron Shotton (Dirprwy Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru), y Cyng. David O’Neill (Llywydd Confensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban), a’r Cyng. Dermot Curran (Llywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Gogledd Iwerddon).

Gofynnodd yr arweinyddion i lywodraeth nesaf San Steffan ofalu y bydd:

• deddf yn araith gyntaf y Frenhines (gan gynnwys Mesur yr Alban, Mesur Cymru a Mesur Datganoli Lloegr) i rymuso cymunedau lleol trwy gynghorau, hyrwyddo’r syniad y dylai grym fod mor agos at y bobl ag y bo modd a datganoli pwerau y tu hwnt i San Steffan, Caeredin, Caerdydd a Belffast;

• Siarter Hunanlywodraeth Leol Ewrop (sy’n pennu egwyddorion democratiaeth leol ac a lofnodwyd gan gynrychiolwyr y Deyrnas Gyfunol ym 1997) yn rhan o’r cytundeb cyfansoddiadol newydd;

• unrhyw gynhadledd gyfansoddiadol am lywodraethu’r Deyrnas Gyfunol yn y dyfodol yn cynnwys arweinyddion y pedair cymdeithas fel y bydd modd clywed barn cymunedau pob ardal.

A hwythau wedi’u hethol i gynrychioli cymunedau’r deyrnas, meddai’r arweinyddion:

“Bydd democratiaeth leol gref a chymunedau a chanddynt rym o les i bawb.”

“A’r Etholiad Cyffredinol yn nesáu, mae’n bryd i’r siarad ddod i ben. Bydd llywodraeth newydd San Steffan yn ysgwyddo cyfrifoldeb am lunio cytundeb ar gyfer cymunedau’r Deyrnas Gyfunol. Dyma gyfle i ddylanwadu ar hanes a chryfhau’r deyrnas.” 

“Cyflwynon ni dystiolaeth i Bwyllgor William Hague yn Llundain a Chomisiwn Smith yng Nghaeredin. Yn y ddau adroddiad, gofynnon ni i rym gwleidyddol gael ei newid yn fawr ac i brosesau penderfynu lleol gael eu hadfywio. Mae pleidiau a chymunedau ym mhob cwr o’r deyrnas wedi dweud eu bod yn cefnogi’r newid.”

“Hoffen ni ddweud yn eglur fod rhaid rhoi’r gorau i drefn ganolog ddrud lle mae’r rhai sydd wrth y llyw yng Nghaerdydd, Belffast, Caeredin a Llundain yn ceisio dyfalu beth fyddai orau i bob bro. Fydd dim modd cynnal unrhyw gytundeb nad yw’n ymestyn y tu hwnt i San Steffan, Holyrood, Bae Caerdydd a Stormont.”

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Mae’r pedair cymdeithas wedi amlinellu’r tair egwyddor arweiniol sydd orau gyda nhw a’u cymunedau ynglyn â datganoli, hefyd.

• Rhaid gweithredu yn ôl yr egwyddor y dylai grym fod mor agos at y bobl ag y bo modd. Rydyn ni’n cydnabod y dylai fod rhai pwerau gwladol, ond dim ond lle mae’n amlwg y byddai hynny’n arwain at ddeilliannau gwell. Fe hoffen ni weld gwir gynnydd o ran datganoli pwerau y tu hwnt i San Steffan, Caeredin, Caerdydd a Belffast, er lles cynghorau lleol a’u cymunedau.

• Hoffen ni i sefyllfa’r cynghorau lleol fod yn ddiogel ac yn well yn ôl y gyfraith. Ar hyn o bryd, mae awdurdod wedi’i ddatganoli i’r cynghorau lleol gan gyrff ‘uwch’. Hoffai ein cymunedau benderfynu ar faterion lleol drostyn nhw eu hunain. Rhaid diffinio pwerau a chyfrifoldebau sy’n pennu’r hyn y dylai pob cyngor lleol ei wneud yn ei ardal fel y caiff lunio’r gwasanaethau cyhoeddus mwyaf priodol i anghenion lleol.

• Hoffai’r cynghorau lleol ragor o ryddid ariannol. Mae’r drefn ariannu wladol yn un aneffeithlon sy’n amharu ar dwf economaidd. Rydyn ni am ysgwyddo rhagor o gyfrifoldeb dros ariannu ardaloedd er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus a gofalu y bydd trigolion a chwmnïau lleol yn gweld sut rydyn ni’n defnyddio eu harian.

2. Llofnododd Llywodraeth y DG Siarter Hunanlywodraeth Leol Cyngor Ewrop fis Mehefin 1997 a’i chymeradwyo ym 1998. Trwy’r siarter, mae wedi ymrwymo i ddiogelu annibyniaeth wleidyddol, gweinyddol ac ariannol yr awdurdodau lleol. Mae’r siarter yn dweud bod rhaid cydnabod egwyddor hunanlywodraeth leol ym mhob deddf wladol – ac yn y cyfansoddiad, lle bo modd. Mae’r cynghorau lleol i’w hethol trwy hawl pob oedolyn i fwrw pleidlais. Dyma sylfaen yr egwyddor y dylai grym fod mor agos at y bobl ag y bo modd yn ôl y gyfraith.

3. Dywedodd bron dau draean (64%) o’r rhai a gymerodd ran mewn arolwg gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr y byddai addewid ym mhob maniffesto i symud grym ac arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus o San Steffan i bob bro yn bwysig ynglyn ag annog y rhai rhwng 18 a 24 oed i fwrw pleidlais ar 7fed Mai: http://www.local.gov.uk/web/guest/media-releases/-/journal_content/56/10180/7166749/NEWS

DIWEDD

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni
   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd, CF10 4LG

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30