Mae arweinyddion presennol gwasanaethau gofal cymdeithasol Cymru, ynghyd â rhai'r dyfodol, wedi'u canmol yn ystod gweithdy i nodi llwyddiant y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Datblygu Rheolwyr Timau.
Dyma'r rhaglen achrededig gyntaf o'i bath yn y Deyrnas Gyfunol. Ei diben yw helpu i wella gwasanaethau a deilliannau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae dros 200 o swyddogion wedi cymryd rhan yn y rhaglen a, hyd yma, mae 77% ohonyn nhw wedi llwyddo i'w chwblhau – rhai gyda chlod.
Yn y gweithdy roedd SSIA ac ADSS Cymru wedi'i drefnu yn Llandrindod, fe gwrddodd pobl oedd wedi cymryd rhan yn y rhaglen â chyfatebion o Gymru a gweddill y deyrnas i gydnabod yr hyn roedden nhw wedi'i gyflawni ynddi a'r modd roedd y rhaglen wedi effeithio ar wasanaethau gofal cymdeithasol er gwell.
Gan fod cyswllt cryf rhwng yr hyn mae pobl yn dysgu yn y rhaglen a'r hyn maen nhw'n ei wneud yn y gwaith, fe roes y gweithdy gyfle i asiantaethau gofal cymdeithasol holi'r myfyrwyr am eu profiad ac ystyried ffyrdd o fanteisio ar eu gwybodaeth i ddatblygu a gwella gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Meddai Ellis Williams, Cyfarwyddwr Arweiniol ADSS Cymru dros Faterion y Gweithlu:
“Cydnabuon ni rai blynyddoedd yn ôl nad oedden ni wedi nodi na diwallu anghenion carfan allweddol o reolwyr y gwasanaethau cymdeithasol – sef, y rhai sy'n ymwneud â gwaith maes. Roedd y broblem yn effeithio ar Gymru i gyd ac, felly, roedd angen ateb ar gyfer y wlad i gyd. Gan gydweithio'n agos â rheolwyr timau a swyddogion hyfforddi, fe luniodd IPC raglen arbennig fyddai'n canolbwyntio ar wella byd y rhai sy'n defnyddio gwasanaethau. Does dim dwywaith bod y rhaglen wedi bod o les i'r rhai gymerodd ran ynddi, eu timau, eu cynghorau ac, yn bwysicaf oll, y defnyddwyr. Dyma lwyddiant y gall pawb yn ein diwydiant ni yng Nghymru fod yn falch ohono.”