CLILC

 

Dull gweithredu cyffredin ar gyfer ailagor ysgolion ym mis Ionawr

  • RSS
Dydd Iau, 17 Rhagfyr 2020 Categorïau: Dysgu gydol oes Newyddion
Dydd Iau, 17 Rhagfyr 2020

Yn dilyn trafodaethau helaeth, mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi cytuno ar ddull gweithredu cyffredin ar gyfer dychwelyd i'r ysgol ym mis Ionawr.

Gyda lefelau trosglwyddo’r coronafeirws yn parhau i gynyddu ledled Cymru, ac ansicrwydd ynghylch pa effaith y gallai hynny ei chael ar lefelau staffio ysgolion dros gyfnod y Nadolig, bydd rhywfaint o hyblygrwydd ar ddechrau'r tymor. Fodd bynnag, ein blaenoriaeth o hyd yw amharu cyn lleied â phosibl ar addysg ein plant a'n pobl ifanc, a dysgu wyneb-yn-wyneb ddylai ddigwydd yn ddiofyn oni bai bod rhesymau iechyd a diogelwch clir dros symud i ddysgu o bell.

I'r rhan fwyaf o'n dysgwyr bydd y tymor ysgol newydd yn dechrau ar 4 Ionawr, er y bydd rhai ysgolion wedi cynllunio diwrnodau HMS yn yr wythnos gyntaf hon. Wrth i ysgolion asesu eu lefelau staffio cyn, ac yn ystod, yr wythnos gyntaf, rydym yn disgwyl y bydd ysgolion yn darparu dysgu wyneb-yn-wyneb i'r rhan fwyaf o'u disgyblion erbyn 11 Ionawr, gan ddychwelyd yn llawn yn y dyddiau cyn 18 Ionawr ar yr hwyraf.

Pan fydd ysgol wedi symud i ddysgu o bell oherwydd amgylchiadau lleol eithriadol a phenodol, bydd disgwyl i awdurdodau lleol ac ysgolion wneud trefniadau i ddysgwyr sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol (gan gynnwys staff ysgol) fynychu, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd. 

Dywedodd llefarydd ar ran CLlLC:

“Bydd y cynllun i ddychwelyd i ysgolion ym mis Ionawr yn rhoi rhywfaint o sicrwydd, tra hefyd yn caniatáu hyblygrwydd i ystyried amgylchiadau lleol.

“Mae ymateb athrawon, staff ysgol, dysgwyr a rhieni a gofalwyr wedi bod yn rhyfeddol drwy gydol y flwyddyn heriol hon. Nid yw wedi bod yn hawdd, a diolchwn iddynt am eu hamynedd a'u dyfalbarhad parhaus i helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

“Er mwyn helpu i leihau lledaeniad cyflym y feirws, rhaid i bob un ohonom barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein hunain, ein gilydd a'n cymunedau.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Rydyn ni i gyd yn cydnabod bod hwn yn gyfnod na welwyd ei debyg o'r blaen, a bod yn rhaid inni fod yn hyblyg o ran sut rydym yn ymateb i'r effaith y mae'r feirws yn ei chael ar ein cymunedau. 

“Drwy gytuno i fod yn hyblyg yn ystod pythefnos cyntaf y tymor ysgol newydd ym mis Ionawr, gall ein hysgolion roi trefniadau cymesur ar waith sy'n adlewyrchu eu hamgylchiadau penodol ac sy'n cael eu harwain gan ystyriaethau iechyd a diogelwch y cyhoedd.  

“Rydyn ni’n gwybod bod ein plant a'n pobl ifanc yn dysgu orau pan fyddant yn yr ystafell ddosbarth, yn derbyn gwersi wyneb-yn-wyneb, felly mae'n rhaid i unrhyw fesurau a roddwn ar waith geisio tarfu cyn lleied â phosibl ar eu haddysg.”

http://www.wlga.cymru/school-return-approach-for-january