Heddiw, cyhoeddwyd y cynllun diweddaraf sy'n amlinellu sail perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol.
Mae'r Cynllun Llywodraeth Leol yn edrych ar sut y bydd Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a'r gwasanaeth cyhoeddus ehangach yn cyflenwi gwasanaethau yn unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae'n golygu ffordd fwy cyfannol o wneud penderfyniadau mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gydnabod pwysigrwydd cydweithio a gweithio gyda dinasyddion.
Mae llunio polisïau gwell yn ganolog i'r cynllun, gyda Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ar oblygiadau polisi deddfwriaethol, cenedlaethol a strategol.
Bydd adroddiad blynyddol drafft ar hynt y cynllun yn cael ei gyhoeddi'r flwyddyn nesaf ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Bydd yn cael ei rannu â chymdeithasau sy'n cynrychioli llywodraeth leol ac yn cael ei ystyried gan Gyngor Partneriaeth Cymru – corff sy'n hyrwyddo cydweithio a chydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol.
Wrth groesawu'r cynllun, dywedodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford:
“Cynghorau sy'n darparu’r gwasanaethau sy'n cyffwrdd â bywydau pawb, bob dydd; o addysgu ein plant, edrych ar ôl ein henoed, cael gwared ar ein gwastraff neu oleuo ein strydoedd.
"Rwy' wedi dweud yn y gorffennol fy mod i am weld perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol a fydd yn seiliedig ar barch at ei gilydd a dealltwriaeth well o rolau a chyfrifoldebau ei gilydd.
"Mae'r cynllun newydd hwn yn ffurfioli partneriaeth fwy clos a chydgysylltiedig a fydd yn helpu i wella'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu a'u cynllunio."
Dywedodd Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd):
“Mae llywodraeth leol yn haen hanfodol o lywodraeth sy’n pontio cymunedau lleol a pholisïau cenedlaethol. Rydyn ni am gael perthynas adeiladol â Llywodraeth Cymru sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth well o rolau ein gilydd fel partneriaid cyfartal sy’n llywodraethu’r wlad, ac ar barch tuag at ein gilydd.”
“Rwyf eisoes wedi nodi fy mod yn gwerthfawrogi dull adeiladol, cynhwysol a rhagweithiol Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yn benodol wrth weithio gyda llywodraeth leol. O dan y Cynllun Llywodraeth Leol newydd, rwy’n edrych ymlaen at weld yr un dull ar waith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau y gallwn gyflawni dymuniad y ddwy ochr i gydweithio’n agosach fel partneriaid cyfartal er budd pobl Cymru.”
Dywedodd Cadeirydd newydd Un Llais Cymru, y Cynghorydd Mike Cuddy:
"Rydyn ni'n croesawu'r Cynllun Llywodraeth Leol diweddaraf ac yn ei gefnogi'n llawn. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio'n agosach gyda Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Awdurdodau Unedol a phartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus wrth weithredu'r Cynllun."
Ychwanegodd: "Cynghorau Tref a Chymuned yw haen fwyaf lleol ein democratiaeth. Maen nhw'n debygol o chwarae rôl a fydd yn rhan annatod gynyddol o'r ffordd y mae cymunedau Cymru yn gweithio a bydd disgwyl iddyn nhw ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau dros y blynyddoedd nesaf. Bydd y Cynllun Llywodraeth Leol diweddaraf yn caniatáu mwy o gydweithio ac yn annog perthynas well ymysg y gwasanaethau cyhoeddus, a bydd hefyd yn arwain at wasanaethau cynaliadwy i'r dyfodol ar draws cymunedau Cymru."