Mae WLGA wedi croesawu adroddiad ‘cylch arbenigwyr’ sy’n amlinellu’r camau mae angen eu cymryd i hybu amrywioldeb ymhlith cynghorwyr lleol Cymru.
Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Gwaith y Llywodraeth, sefydlodd y cylch fis Mai 2013 gan ofyn iddo ddadansoddi arolwg o gynghorwyr lleol ac amlinellu cynllun gweithredu eglur i ofalu y bydd ymgeiswyr amryfal yn etholiadau lleol 2017.
Mae’r adroddiad yn rhoi nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, WLGA, awdurdodau lleol a phleidiau gwleidyddol ynglŷn ag ehangu amrywiaeth y bobl fydd yn ymgeiswyr yn yr etholiadau lleol nesaf.
Gan ymateb i’r adroddiad, meddai’r Cyng. Bob Wellington (Tor-faen), Arweinydd WLGA:
“Mae’n hanfodol i wleidyddion ac arweinyddion dinesig gynrychioli cymunedau mwyfwy amryfal y wlad, er democratiaeth leol. Rhaid i fyd llywodraeth leol ofalu bod pawb yn cael dweud ei ddweud gan y bydd pob cyngor yn fwy cyfiawn ac effeithiol o lawer trwy gael clywed cynifer o safbwyntiau ag y bo modd yn ei siambr.”
“Mae arolwg cyntaf Llywodraeth Cymru o ymgeiswyr a chynghorwyr yn cyfleu darlun defnyddiol o’r rhai gystadlodd yn yr etholiadau lleol diwethaf. O’i gymharu ag arolwg blaenorol WLGA o ymgeiswyr, fodd bynnag, mae’n dangos bod llawer i’w wneud eto i annog pobl o bob lliw a llun i ystyried gwasanaethu eu cymunedau’n gynghorwyr.”
“Edrychwn ni ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru a phob plaid wleidyddol i fynd i’r afael â’r heriau yma yn ystod y cyfnod cyn etholiadau lleol 2017 ac yn rhan o drefn fydd yn cadw golwg ar y sefyllfa ac yn ei gwella dros y tymor hir i annog carfanau sydd heb eu cynrychioli’n llawn yn ein bywyd cyhoeddus i ystyried cymryd rhan ynddo.”
Meddai’r Cyng. Ellen ap Gwynn (Ceredigion), Llefarydd WLGA dros Gydraddoldeb:
“Rydyn ni’n gwneud llawer ar hyn o bryd i helpu carfanau sydd heb eu cynrychioli’n llawn i ddysgu rhagor am ddemocratiaeth a gwleidyddiaeth. Cyn etholiadau 2012, cyhoeddodd WLGA lawlyfr ‘Bod yn Gynghorydd’ a’i ledaenu ymhlith pobl a oedd yn ystyried bod yn ymgeiswyr. Cynhaliodd cynghorau amryw weithgareddau hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth yn eu bröydd hefyd, ac maen nhw wrthi’n astudio sut y gallai technoleg ac arferion gweithio newydd helpu i chwalu rhai meini tramgwydd sydd wedi rhwystro pobl rhag cyflawni rolau cyhoeddus ymestynnol.”
“Er bod llawer mwy o ymgeiswyr nag erioed yn yr etholiadau lleol diwethaf, mae’r adroddiad yma’n amlinellu’r anghydbwysedd parhaus rhwng nifer y dynion a’r merched yn siambr pob cyngor lleol. Mae WLGA yn edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru a phob plaid wleidyddol i gywiro hynny, er ein bod yn cydnabod ymroddiad a chyfraniad y rhai sydd mewn rolau dinesig yn barod ac sy’n parhau i gynrychioli eu cymunedau nhw hyd eithaf eu gallu.”
DIWEDD