Mae nifer o gynghorwyr a swyddogion llywodraeth leol o amryw rannau o Gymru wedi ymweld â Brwsel o dan nawdd WLGA i gynrychioli awdurdodau lleol y wlad yn ystod Wythnos y Rhanbarthau a’r Dinasoedd (neu Wythnos y Diwrnodau Agored) sy’n mynd rhagddi bob blwyddyn trwy drefniadau Pwyllgor y Rhanbarthau (sefydliad cynrychioli byd llywodraeth leol a rhanbarthol yn Undeb Ewrop).
Mae Wythnos y Diwrnodau Agored yn bwysig i fyd llywodraeth leol Ewrop am y bydd 6,000 o bobl yn ymwneud â thros 100 o weithdai, trafodaethau, arddangosfeydd a chyfleoedd i rwydweithio. Gan fod cyfres bresennol rhaglenni ariannu Undeb Ewrop ar fin dod i ben a bod dechrau’r gyfres newydd (2014-20) yn prysur nesáu, fe fydd cyfle eleni i barhau â’r trafodaethau hanfodol am sut y bydd byd llywodraeth leol yn gofalu bod cymunedau ledled Cymru yn cael manteisio i’r eithaf ar yr ariannu.
Meddai’r Cyng. Bob Bright (Casnewydd), Llefarydd WLGA dros Faterion Ewrop, aelod o Bwyllgor y Rhanbarthau ac arweinydd yr ymweliad:
“Mae Wythnos y Diwrnodau Agored yn adeg bwysig i ymweld â Brwsel bob blwyddyn a hyrwyddo cynghorau Cymru ymhlith cynrychiolwyr llywodraeth leol o bob cwr o Ewrop. Dyma’r wythnos lle bydd hoelion wyth lleol, rhanbarthol a gwladol yn dod at ei gilydd er mwyn trafod ffyrdd o gynllunio ar gyfer y dyfodol a chyfleoedd i gydweithio. Felly, mae’n werthfawr iawn o ran cwrdd â’n cyfatebion yn Ewrop.”
“Rhaglenni ariannu newydd Undeb Ewrop fydd o dan sylw eleni, ynghyd â syniadau newydd ac arloesol i helpu cymunedau a chwmnïau yng Nghymru i elwa cymaint ag y bo modd ar yr ariannu. Gan fod rhaid i fyd llywodraeth leol wneud mwy a mwy – er gwaetha’r ffaith bod llai a llai o adnoddau – bydd yn bwysicach nag erioed inni gael gafael ar arian o Undeb Ewrop a bydd yn hanfodol i’n hawdurdodau lleol fod yn barod am y gyfres newydd ar ôl 2013. Yn sgîl ein trafodaethau defnyddiol iawn yn ystod y gynhadledd yr wythnos ddiwethaf, mae Wythnos y Diwrnodau Agored yn gyfle gwych inni gyfnewid syniadau a’r arferion gorau gyda’n cyfatebion ym maes llywodraeth leol ledled Ewrop. Ar ben hynny, mae’n gyfle da i ddylanwadu ar y rhai sy’n ymwneud â phenderfyniadau allweddol y Deyrnas Gyfunol ac Undeb Ewrop.”
Yn rhan o Wythnos y Diwrnodau Agored, bydd WLGA yn cynnal gweithdy ar y cyd ag awdurdodau lleol yr Alban a thair gwlad arall: ‘Yr agwedd diriogaethol mewn partneriaethau a rhaglenni gweithredol newydd: Cyfraniad partneriaid lleol a rhanbarthol ynglŷn ag amryw elfennau o Agenda Tiriogaethol 2020.'
Cynhaliodd WLGA gynhadledd yn Llandudno ar 4ydd Hydref, hefyd: ‘O dlodi i ffyniant: hwyluso newidiadau trwy arian Undeb Ewrop yn y dyfodol’ gan ddod â’r rhai sy’n gyfrifol am raglenni ariannu Undeb Ewrop ym mhob cwr o Gymru ynghyd i drafod sut y dylai’r arian gael ei ddefnyddio i drechu tlodi ac allgau cymdeithasol.
Diwedd