Dros 3,000 o athrawon cynradd yn llwyddo i gwblhau rhaglen ‘Dysgu gydag Awtistiaeth’

Dydd Mawrth, 25 Medi 2018

Mae mwy o ysgolion Cymru yn cael ei hannog i gymryd rhan yn rhaglenni ‘Dysgu gydag Awtistiaeth’, sydd wedi eu anelu at godi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc am awtistiaeth.

Bwriad y rhaglenni ‘Dysgu gydag Awtistiaeth’ yw i godi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc am awtistiaeth a sut mae’r cyflwr yn effeithio ar unigolion awtistig. Mae’r rhaglen yn helpu’r gymuned ysgol gyfan i gael gwell dealltwriaeth ac i dderbyn awtistiaeth, â’r cyfle i ddysgu mewn awyrgylch diogel a chefnogol. Gan ganolbwyntio ar ysgolion cyfan, mae’n ofynnol i’r holl ddisgyblion, staff dysgu a chymorthyddion cefnogi dysgu i gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus.

Mae’r Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol – a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ei gynnal gan CLlLC ac yn gweithio’n agos â Iechyd Cyhoeddus Cymru – wedi bod yn cyflwyno’r rhaglen ers ei lansiad gwreiddiol mewn ysgolion cynradd yn 2016.

Hyd yn hyn, mae 3,624 o staff dysgu wedi llwyddo i gwblhau’r rhaglen i athrawon, 4,043 o bobl wedi llwyddo i gwblhau y rhaglen i gymorthyddion, a 20,397 o blant wedi cwblhau’r rhaglen archarwr.

Mae set o adnoddau am ddim ar gael i ysgolion cynradd ar gyfer Cyfnod Allweddol 1 a 2 mewn fformatau llyfrau stori, ble anogir plant i ddod yn “Archarwr Awtistiaeth”, ac i arwyddo cyfamod ac yna yn derbyn tystysgrif wed’i arwyddo unwaith iddyn nhw ddarllen y llyfr.

 

Dywedodd Mr Clive Williams, Ysgol Gymraeg Aberystwyth:

“Fe ymatebodd y disgyblion yn dda iawn i’r rhaglen archarwyr. Teimlodd rhai disgyblion sydd eisoes wedi cael diagnosis eu bod eisiau rhannu eu profiadau. Dangoswyd empathi gan ddisgyblion eraill a roedden nhw’n awyddus i ddangos eu cefnogaeth. Roedd bron fel petai yn rhyddhad iddyn nhw i ddeall mwy am y pwnc fel eu bod yn deall pam fod rhai disgyblion angen cefnogaeth ychydig yn wahanol iddyn nhw.”

“Roedd yr adnoddau i blant yn uchafbwynt o’r rhaglen i ni fel ysgol. Ni fuaswn yn oedi i argymell y rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth i ysgolion eraill.”

 

Ers Medi 2017, mae’r rhaglen hefyd wedi cael ei addasu a’i ehangu i leoliadau Blynyddoedd Cynnar ac ysgolion uwchradd.

Mae’r rhaglen Blynyddoedd Cynnar yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth plant ifanc i dderbyn gwahaniaethau. Mae’r rhaglen yn helpu staff i ddatblygu eu dealltwriaeth a sgiliau i gefnogi plant awtistig ifanc.

Ffocws y rhaglen i ysgolion uwchradd yw rhaglen hyfforddi ar gyfer staff i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u gallu i deilwra eu ffordd o ddysgu i gefnogi pobl ifanc awtistig, Mae saith ysgol ar draws pum ardal awdurdod lleol wedi cwblhau’r rhaglen hyd yn hyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae’n galonogol iawn i weld cyn gymaint o leoliadau blynyddoedd cynnar ac ysgolion yn llwyddo i gyflawni’r rhaglen am ddim ‘Dysgu gydag Awtistiaeth’, ac edrychaf ymlaen i weld mwy o ysgolion cynradd yn gwneud defnydd o'r adnoddau sydd yn rhad ac am ddim. Mae’n hollbwysig ein bod yn gwella ymwybyddiaeth o ASA er mwyn gallu cefnogi unigolion awtistig yn well ac i ddeall eu anghenion.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Arweinydd a Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Fel cyn athro fy hun, rwy’n gwybod pa mor bwysig ydi hi i ddeall anghenion plant er mwyn gallu eu cefnogi i ddatblygu fel unigolion. Mae gan ysgolion lawer i’w ddarparu fel rhan o’r cwricwlwm ond mae ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o niwroamrywiaeth, gan gynnwys ASA yn bwysig iawn i wella dealltwriaeth.”

 

Am fwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn y rhaglen ‘Dysgu ag Awtistiaeth’ neu i gael mynediad at lu o adnoddau yn rhad ac am ddim, ewch i www.ASDInfoWales.co.uk.

 

DIWEDD

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30