Mae pedwerydd cam y drafodaeth am Fesur Llywodraeth Leol Cymru yn y Cynulliad wedi dod i ben bellach. Felly, dim ond ar ôl mis Mai 2016 y bydd modd ailgydio ym mhroses ad-drefnu’r cynghorau lleol.
Yng ngoleuni hynny, mae WLGA wedi gofyn eto i arweinydd pob plaid wleidyddol a phob cyngor lleol gael cymryd rhan mewn trafodaethau cenedlaethol pwysig ar ôl etholiad nesaf y Cynulliad fis Mai 2016 i bennu tynged y gwasanaethau cyhoeddus.
Daw hynny ar ôl i Blaid Llafur a Phlaid Cymru daro bargen i adael i Fesur ‘Llywodraeth Leol’ Cymru fynd ymlaen i’r cam nesaf yn y Cynulliad.
Meddai llefarydd ar ran WLGA:
“Mae’r dyfalu parhaus am ad-drefnu’r cynghorau lleol yn ychwanegu at eu hanawsterau wrth geisio trefnu a newid gwasanaethau lleol yn sgîl pwysau ariannol trymion. Ar ben hynny, mae’n effeithio ar gymhelliant miloedd o weithwyr llywodraeth leol sy’n teimlo’n fwyfwy ansicr o achos dyfalu o’r fath. Mae hynny’n digwydd yng nghyd-destun ehangach prif anhawster y cynghorau lleol. Nid yr ad-drefnu arfaethedig yn 2020 mo hwnnw, ond effaith adolygiad Llywodraeth San Steffan o’i gwariant, lle mae’n sôn am gwtogi o ryw 25-40% ar wasanaethau lleol.”
“Yn sgîl bargen Plaid Llafur a Phlaid Cymru yn y Cynulliad heddiw, fe fydd yn hanfodol cynnwys pobl Cymru yn llawn mewn unrhyw broses i ad-drefnu a diwygio’r cynghorau lleol. Felly, mae’n hollbwysig i bob plaid wleidyddol esbonio’r manylion yn ei maniffesto fel y gall etholwyr eu pwyso a’u mesur cyn yr etholiad yng Nghymru y flwyddyn nesaf.”
“Bydd arweinyddion y cynghorau lleol yn ceisio cydweithio â llywodraeth nesaf Cymru i sefydlu trefn lywodraethu lleol effeithiol y gallwn ni ei chynnal am flynyddoedd i ddod. Dylai’r drefn honno hybu pwysigrwydd democratiaeth leol a gofalu bod penderfyniadau lleol wrth wraidd polisïau cyhoeddus Cymru.”
DIWEDD