Apwyntio Arweinydd newydd CLlLC

Dydd Gwener, 06 Rhagfyr 2019

Cafodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdesitref Sirol Rhondda Cynon Taf, ei apwyntio yn Arweinydd CLlLC yng nghyfarfod Cyngor CLlLC (29fed Tachwedd 2019), yn dilyn cyflwyniad y cyn-Arweinydd y Farwnes Wilcox o Gasnewydd i Dŷ’r Arglwyddi.

 

Yn annerch Cyngor CLlLC, dywedodd y Cynghorydd Morgan:

“Anrhydedd enfawr i mi yw cael fy ethol yn Arweinydd CLlLC. Mae’r ddegawd ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn i lywodraeth leol, ond mae cynghorau wedi dangos arweiniad ac wedi gweithio i sicrhau bod ein cymunedau lleol wedi cael eu gwasanaethu’n dda a bod gwasanaethau lleol hanfodol wedi cael eu cynnal. Mae Debbie wedi bod yn ladmerydd cryf dros lywodraeth leol yn ystod ei harweinyddiaeth o CLlLC ac, fel Arweinydd CLlLC, rwy’n bwriadu i barhau i fod yn bencampwr dros achos llywodraeth leol, yn sicrhau bod ein llais ar y cyd yn cael ei glywed gan Lywodraeth ac i barhau i godi proffil y gwaith allweddol y mae cynghorau a chynghorwyr yn ei wneud ar ran eu cymunedau.”

 

Yn talu teyrnged i gefnogaeth pob arweinydd a holl aelodau’r Cyngor yn ystod ei harweinyddiaeth, dywedodd y Farwnes Wilcox:

“Tra mae’n debyg bod gwleidyddiaeth ar ei fwyaf rhanedig yn ystod ymgyrch etholiad, mae’n hollbwysig ein bod ni’n aros yn unedig o fewn CLlLC; rydyn ni’n siarad ag un llais ar ran ein cynghorau a’r gwaith yr ydyn ni’n ei wneud gyda’n gilydd er lles ein cymunedau lleol.”

“Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth oedd un o fy brif flaenoriaethau fel arweinydd benywaidd cyntaf CLlLC. Rwyf felly’n falch fy mod wedi gweithio gyda rhai o’r arweinwyr mwyaf amrywiol a modern sydd nid yn unig wedi hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ond hefyd wedi ei ymgorffori. Mae ganddon ni rai o’r arweinyddion ieuengaf erioed a rwy’n falch fy mod yn gadael CLlLC yn fwy cytbwys o ran rhyw, nag oedd pan imi gychwyn, a rwyf hefyd yn croesawu arweinwyr benywaidd newydd Casnewydd a Chaerffili, y Cynghorwyr Jane Mudd a Philippa Marsden.”

 

Ymysg y newidiadau eraill o ran yr arweinyddiaeth, cafodd

  • y Cyng Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Penybont ar Ogwr ei ethol yn Lywydd
  • ·Arweinydd newydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cyng Jane Mudd, ei hapwyntio fel Dirprwy Lywydd
  • Y Cyng Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, ei apwyntio yn Lefarydd Addysg, a;
  • Y Cyng Philippa Marsden, arweinydd newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ei hapwyntio yn Lefarydd CLlLC dros y Gweithlu.

 

-DIWEDD-

 

Nodiadau i Olygyddion

Mae’r Cynghorydd Andrew Morgan o Aberpennar, Cwm Cynon.  Mae’n gynghorydd bwrdeistref sirol dros Orllewin Aberpennar ers 2004. Bu’n weithiwr i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf cyn ei ethol. Penodwyd yn aelod o’r cabinet yn 2008 a daeth yn arweinydd y cyngor ym mis Mai 2014. Mae wedi bod yn Lywydd CLlLC ers mis Tachwedd 2016 a bydd yn parhau yn ei rôl fel Llefarydd CLlLC dros Drafnidiaeth yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30