Papurau newydd wedi'u cyhoeddi am fewnfudo, tai a chydlyniant cymdeithasol yng Nghymru

Dydd Mercher, 27 Awst 2014

Mae Partneriaeth Mewnfudo Cymru wedi cyhoeddi’r ail mewn cyfres o bapurau hysbysu manwl am fewnfudo yng Nghymru. 

Mae’r papurau, a ysgrifennwyd gan yr Athro Heaven Crawley, yn cynnig crynodebau cyfoes o’r dystiolaeth sylfaen sydd ar gael am fewnfudo yng Nghymru. Maent hefyd yn mynd i’r afael â rhai o’r anwireddau ynghylch ceiswyr lloches, ffoaduriaid a mewnfudwyr.

Mae’r papurau diweddaraf yn cyflwyno’r data cyfredol a’r dystiolaeth ymchwil ynglyn â ‘Mewnfudo a Thai’ a ‘Mewnfudo a Chydlyniant Cymunedol’ yng Nghymru.

Meddai’r Athro Heaven Crawley, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Bolisïau Mewnfudo ym Mhrifysgol Abertawe;

“Mae graddfa a natur mewnfudo i Gymru wedi newid yn sylweddol dros y degawd diwethaf. Nod y gyfres barhaus yma o bapurau hysbysu yw deall yn union faint o bobl sy’n cyrraedd a beth yw eu profiadau, yn ogystal â sut gallai patrymau mewnfudo newydd effeithio ar wasanaethau lleol a chymunedau.

“Tra bod llawer o’r drafodaeth gyfredol am effeithiau posibl rhagor o fewnfudo ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn seiliedig ar dybiaethau yn hytrach nag ar ffeithiau, mor ddiweddar â 2009, ymfudwyr oedd llai na 2% o’r rhai oedd yn byw mewn tai cymdeithasol. Mae’r papurau yma’n dangos yn glir mai digartrefedd, cyflwr gwael tai a lefelau troseddau casineb y mae llawer sy’n dod i Gymru’n eu profi yw’r hyn y dylai polisïau cyhoeddus fynd i’r afael â nhw.”

Dyma farn Anne Hubbard, Cyfarwyddwraig Partneriaeth Mewnfudo Cymru: 

“Tra bod effeithiau mewnfudo’n bwnc trafod cyson, prin yw’r gwaith sydd wedi’i wneud i ddeall yn union y tueddiadau mewnfudo yng Nghymru a’u heffaith. Mae’r papurau yma’n ceisio llenwi’r bwlch a gwneud yn siwr bod polisïau cyhoeddus yn seiliedig ar ddealltwriaeth gywir o’r dystiolaeth sydd ar gael.”

DIWEDD

Nodiadau’r i’r Golygydd

Mewnfudo a Thai

• Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am fewnfudwyr sy’n byw yng Nghymru o dan ei swyddogaethau tai, iechyd, addysg a gwasanaeth cymdeithasol yn ogystal â thrwy ei hagenda am gydlyniant cymdeithasol.
• Mae tai yn faes sydd wedi’i ddatganoli i Gymru gan olygu mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bolisïau yn y maes hwn.
• Amcangyfrifir bod 1.35 miliwn o gartrefi yng Nghymru a bod tua 70% ohonynt yn berchen i’r bobl sy’n byw ynddynt. Cartrefi a rentir gan awdurdodau lleol neu gymdeithasau tai (16%) a chartrefi a rentir gan landlordiaid preifat (14%) yw’r gweddill.
• Mae sawl her ym maes tai yng Nghymru a’r ffaith fod pobl yn byw’n hirach yw’r un fwyaf arwyddocaol. Erbyn 2026, disgwylir y bydd dros chwarter y boblogaeth dros 65 oed ac un o bob ugain o bobl dros 85 oed.
• Mae patrymau newydd o ran mewnfudo rhyngwladol i Gymru wedi cyd-fynd â newidiadau pwysig yn y farchnad dai. Mae’r twf yn nifer y cartrefi yn sgîl pobl yn byw’n hirach a rhagor o bobl yn byw ar eu pen eu hunain neu mewn cartrefi llai ymhlith y newidiadau amlycaf.
• Mae’r tai sydd ar gael i fewnfudwyr rhyngwladol yng Nghymru yn dibynnu ar eu statws mewnfudo a’u hawliau cyfreithiol cysylltiedig, yn ogystal â’u hadnoddau ariannol a chyfleoedd.
• Yn ôl ymchwil am ogledd a gorllewin Cymru, mewnfudo mewnol o ardaloedd cefnog o Lerpwl, Manceinion, Birmingham a de-ddwyrain Lloegr sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar dai yn hytrach na mewnfudo rhyngwladol.
• Prin yw’r tai cymdeithasol sydd wedi bod ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o fewnfudwyr sydd wedi dod i’r Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd diwethaf, ac ymfudwyr diweddar oedd llai na 2% o’r rhai oedd yn byw mewn tai cymdeithasol yn 2009.
• Mewnfudo cynyddol sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar y sector rhentu preifat. Mae rhywfaint o ymchwil yn awgrymu bod 60-90% o fewnfudwyr sydd newydd gyrraedd yn byw mewn llety a rentir yn breifat, ond mae mewnfudwyr sydd wedi bod yma ers peth amser yn tueddu i gael llety tebyg i’r rhai sydd wedi’u geni yn y Deyrnas Unedig h.y. maent yn berchen ar eu cartrefi.
• Ceir tystiolaeth fod mewnfudwyr yng Nghymru sy’n rhentu’n breifat neu’n byw mewn llety drwy eu cyflogwyr (llety cysylltiedig), yn byw mewn tai gorlawn ac mewn cyflwr gwael
• Mae tua un o bob tri (30%) o fewnfudwyr sy’n gweithio wedi bod yn ddigartref ers byw yng Nghymru. Gall y rhain fynd yn ddigartref yn haws oherwydd arferion gwaith sy’n cymryd mantais, tai o ansawdd gwael neu am nad ydynt yn cael hawlio arian cyhoeddus megis budd-daliadau tai a/neu dai cymdeithasol.
• Ceir tystiolaeth fod ffoaduriaid sydd wedi cael yr hawl i aros yng Nghymru yn cael anawsterau wrth gael gafael ar lety priodol oherwydd y nifer cymharol brin o dai cymdeithasol a llety rhent preifat fforddiadwy.

Mewnfudo a Chydlyniant Cymdeithasol yng Nghymru
• Er nad yw mewnfudo’n faes sydd wedi’i ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am fewnfudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru o dan ei swyddogaethau tai, iechyd, addysg a gwasanaeth cymdeithasol yn ogystal â thrwy ei hagenda am gydlyniant cymdeithasol.
• Yn unol â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus feithrin cysylltiadau da rhwng y rhai sy’n rhannu nodwedd a ddiogelir a’r rhai sydd heb y nodwedd honno. Mae ‘meithrin cysylltiadau da’ yn ymwneud â mynd i’r afael â rhagfarn, a hyrwyddo dealltwriaeth rhwng pobl o wahanol grwpiau.
• Nid oes un diffiniad cyffredinol a rennir o ystyr cydlyniant cymdeithasol ond, yn ôl Llywodraeth Cymru, rhaid cael cydlyniant cymdeithasol ym mhob cymuned i alluogi gwahanol grwpiau o bobl gyd-dynnu’n dda.
• Lansiwyd Strategaeth Cydlyniant Cymdeithasol Llywodraeth Cymru – Cymru’n Cyd-dynnu – yn 2009. Mae’n canolbwyntio ar bolisïau a gwasanaethau sy’n cael effaith sylweddol ar ba mor dda mae cymuned yn cyd-dynnu, gan gynnwys tai, dysgu, cymuned, cydraddoldeb ac atal eithafiaeth.
• Gall sawl ffactor gwahanol a chysylltiedig effeithio ar gydlyniant cymdeithasol yn lleol. Mae’r rhain yn cynnwys yr argraff bod rhaid cystadlu am adnoddau, rhagor o fewnfudo i’r Deyrnas Unedig, yn enwedig o wladwriaethau sydd wedi’u derbyn i mewn i’r Undeb Ewropeaidd yn ddiweddar, a bod llai o dai mewn ardaloedd gwledig oherwydd mewnfudo. Tybir hefyd bod mwy o gystadleuaeth am waith a gwasanaethau yn ogystal â phryderon am sut gallai newidiadau demograffig mewn ardaloedd gwledig effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith.
• Mae’r dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn awgrymu nad oes cysylltiad uniongyrchol rhwng nifer y mewnfudwyr mewn cymuned benodol â’r lefelau cydlyniant. Mae tensiynau mewn ardaloedd lle ceir mewnfudwyr newydd yn aml yn adlewyrchu problemau ehangach gan gynnwys tlodi, amddifadedd a hiliaeth.
• Mae’r dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn awgrymu bod agweddau tuag at fewnfudo yn y Deyrnas Unedig yn negyddol ar y cyfan. Ceir peth tystiolaeth bod agweddau yng Nghymru yn fwy ffafriol o gymharu ag ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig, er bod ymchwil ddiweddar wedi canfod bod agweddau tuag at fewnfudwyr, yn enwedig ffoaduriaid, yn fwy negyddol nag ydynt mewn mannau eraill.
• Ceir tystiolaeth o hiliaeth a gwahaniaethu yng Nghymru. Mae dros ddau o bob tri o gefndir lleiafrif ethnig wedi cael profiad o hiliaeth yng Nghymru, a throseddau casineb hiliol yw tua thri chwarter yr holl droseddau casineb yng Nghymru.

Mae’r Swyddfa Gartref yn ariannu Partneriaeth Mewnfudo Cymru i gynnig arweiniad strategol yn ogystal â rôl annibynnol, gynghorol ac ymgynghorol ynglyn â mewnfudo yng Nghymru. Mae’r bartneriaeth yn cynnig cyfleoedd i rannu arbenigedd, amrywiaeth eang o safbwyntiau a gwybodaeth hanfodol fel bod cyn lleied o effaith negyddol â phosibl yn ogystal â manteisio i’r eithaf ar fanteision mewnfudo.

Gallwch lawrlwytho’r papurau hysbysu yn: www.wmp.org.uk. 

Gallwch lawrlwytho data ac adnoddau ychwanegol o Borthol Mewnfudo Cymru
http://wmp.infobasecymru.net/IAS

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni
   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd, CF10 4LG

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30