CLILC

 

Mwy o gefnogaeth i rieni a gofalwyr plant awtistig wedi diagnosis

  • RSS
Dydd Llun, 01 Ebrill 2019 Categorïau: Newyddion Tîm Datbygu ASA Cenedlaethol
Dydd Llun, 01 Ebrill 2019

Bydd ffilm newydd sy’n cael ei lansio heddiw gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol sydd yn gobeithio cefnogi rhieni a gofalwyr plant awtistig sydd newydd dderbyn diagnosis.

Mae adborth gan bobl awtistig a rhanddeiliaid eraill yn dangos bod bwlch o ran cefnogaeth yn y cyfnod yn syth wedi diagnosis. Bydd clinigwyr a gweithwyr broffesiynol yn y maes yn gallu cyfeirio rhieni a gofalwyr at y ffilm wedi iddyn nhw dderbyn diagnosis, a bydd hefyd yn hawdd i’w gyrchu ar-lein.

Cafodd y ffilm ei gomisiynu gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol – gynt y Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol – a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gynhelir gan CLlLC, mewn partneriaeth agos â Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“I rieni a gofalwyr, bydd y broses o eu plentyn yn derbyn diagnosis o awtistiaeth yn aml yn gallu bod yn brofiad dryslyd o ganlyniad i’r prinder dealltwriaeth cyffredinol o awtistiaeth fel cyflwr.

“Cafodd y ffilm ei chomisiynu gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn ymateb yn uniongyrchol i ymateb gan bobl awtistig nad oes digon o gefnogaeth ar gael yn syth wedi diagnosis. Rwy’n gobeithio y bydd y ffilm yma’n helpu i leddfu meddwl rhieni a gofalwyr, ac i ddangos bod gwybodaeth ar gael i’w helpu i ddeall beth y mae’r diagnosis yn ei olygu a chyngor ymarferol ar gyfer byw o ddydd-i-ddydd.”

“Yn ychwanegol i’r ffilm, mae gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ystod o ddeunyddiau defnyddiol ar gael ar www.asdinfowales.co.uk i gefnogi unigolion awtistig a’r rhai hynny o’u cwmpas.”

Gellir gweld y ffilm ar: https://www.asdinfowales.co.uk/tv

 

http://www.wlga.cymru/more-support-for-parents-and-carers-of-newly-diagnosed-autistic-children