Cyflenwi gwasanaethau lleol yng Nghymru ar adeg o gyni ariannol

Dydd Llun, 23 Tachwedd 2015
Cyflenwi gwasanaethau lleol yng Nghymru ar adeg o gyni ariannol – datganiad ar y cyd rhwng Llywodraeth Leol yng Nghymru a Llywodraeth Cymru

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn bwysig ym marn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol yng Nghymru. Rydym yn gosod gwerth ar wasanaethau cyhoeddus a’r bobl sy’n gweithio iddynt. 

Ers 2010, mae Llywodraeth y DU wedi torri cyllideb Llywodraeth Cymru o £1.3 biliwn. Yn Lloegr, oherwydd dyfnder y toriadau, mae Cynghorau’n dweud y byddant yn ei chael hi’n anodd darparu gwasanaethau hanfodol hyd yn oed. Mae’r Prif Weinidog hyd yn oed wedi protestio yn erbyn y toriadau sy’n cael eu gorfodi ar ei gyngor lleol ei hun. Mae Llywodraeth Cymru wedi diogelu Llywodraeth Leol yn well nag a wnaed yn Lloegr. Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei Adolygiad o Wariant ar 25 Tachwedd ac rydym yn disgwyl y bydd ein cyllid yn cael ei leihau ymhellach yn dilyn hyn, a bod cyfnodau anoddach eto o’n blaenau. 

Rydym yn wynebu galwadau cynyddol am wasanaethau cyhoeddus. Mae penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU, fel toriadau i gyllidebau lles, plismona a chyfiawnder ieuenctid oll yn bygwth ychwanegu at y galwadau sydd ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Wrth ymateb i’r heriau hyn, ni allwn barhau i wneud yr un pethau, yn yr un ffordd ag yr ydym bob amser wedi’u gwneud. 

Rydym yn cytuno y bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Rydym o’r farn bod angen inni sicrhau bod pobl ledled Cymru yn deall maint y newid sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus, a’u bod yn cael y cyfle i ddylanwadu ar y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud ac i fod yn rhan o’r ateb. Rydym am roi pobl wrth galon gwasanaethau cyhoeddus. Drwy egluro’r dewisiadau sy’n ein hwynebu, gallwn gynnwys pobl mewn trafodaeth ddeallus ynghylch beth fyddwn yn ei ddarparu a sut. 

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru ac arweinwyr gwleidyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ymrwymo i:

  • barhau i weithio gyda’i gilydd i ddeall y goblygiadau llawn ar gyfer gwasanaethau lleol o wynebu gostyngiad pellach mewn adnoddau 
  • parhau i fod yn dryloyw fel bod pobl Cymru yn deall y sefyllfa ariannol a’r hyn y mae’n ei olygu ond herio ein hunain i ymchwilio i ddulliau eraill heblaw am golli gwasanaethau 
  • dysgu gan y rheini sydd eisoes wedi wynebu’r heriau hyn mewn ardaloedd eraill ledled y DU a thu hwnt a mabwysiadu’r arferion gorau
  • rhannu syniadau ac arferion gorau yn well ac yn fwy rheolaidd, gan gynnwys gweithio ar draws ffiniau gwasanaethau cyhoeddus 
  • parhau i ddod o hyd i ffyrdd gwell o ymgysylltu â phobl wrth wneud penderfyniadau a sicrhau bod pobl yn chwarae mwy o ran
  • ymchwilio i bob dull o gynnal gwasanaethau yn y sector cyhoeddus, a mabwysiadu modeli cyflenwi eraill, fel cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol dim ond fel dewis arall heblaw am ddirwyn gwasanaethau i ben neu eu preifateiddio. Hyd yn oed wedyn, gwneud hynny dim ond pan fo rhag-amodau yn cael eu bodloni
  • ceisio bob amser i osgoi diswyddo gorfodol  
  • defnyddio’r cyfleoedd y mae technoleg newydd yn eu cynnig, a data cyhoeddus a data eraill sydd ar gael, i ailffurfio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol a rheoli’r galw.
Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni
   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd, CF10 4LG

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30