Llywodraeth leol yn #GweithioDrosGynnydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod

Dydd Iau, 08 Mawrth 2018

Caiff Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ei nodi heddiw gyda llu o weithgareddau ar draws Cymru i ddathlu cyfraniad menywod ac i weithio dros gynnydd ar gynrychiolaeth gyfartal.

Bydd cyfarfodydd rhwydweithiau menywod, trafodaethau ac arddangosfeydd gan fenywod ysbrydoledig ar draws nifer o gynghorau yn cael eu cynnal, gan gynnwys trafodaeth ym Mhrifysgol Abertawe gyda panel traws-bleidiol yn cynnwys y Cynghorydd Mary Sherwood, Cyd Lefarydd WLGA dros Gydraddoldebau, ac Aelodau Cynulliad i drafod cyfraniad menywod a sut i gyflawni cynnydd ar gynrychiolaeth gyfartal.

Ymysg gweithgareddau eraill yn digwydd yn lleol mae:

Neuadd y Ddinas Caerdydd a Sgwâr y Castell Abertawe yn cael eu goleuo yn borffor i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn hybu ac yn darparu menywod ifanc rhwng 11-20 gyda’r cyfle i ‘gysgodi’ rhai o’i menywod ysbrydoledig mewn amryw lefydd a swyddi am y dydd.

Digwyddiad yn Ysgol Casgwent, Sir Fynwy i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, yn cynnwys cyngor a hanesion ystod eang o fenywod sydd wedi dod yn lwyddiannus ac yn arwain y ffordd mewn diwydiannau sy’n cael eu hystyried wedi’u dominyddu gan ddynion.

Fodd bynnag, mae WLGA yn glir bod yn rhaid gwneud mwy i weithio am gynnydd er mwyn hybu mwy o fenywod i gymeryd rhan yn y broses ddemocrataidd.

Dywedodd y Cynghorydd Mary Sherwood (Abertawe), Cyd Lefarydd WLGA dros Gydraddoldeb, Diwygio Llesiant a Gwrth-Dlodi:

"Mae’n bwysig ein bod ni yn dathlu cyflawniadau a chyfraniad menywod i fywyd cyhoeddus, ynghyd ag ymdrechion y swffragwyr blaengar a wnaeth helpu i newid trywydd ein hanes ni. Fe wnaethon ni yn ddiweddar nodi canrif ers i rai menywod gael y bleidlais wedi i fenywod dylanwadol ac ysbrydoledig o Gymru, megis y Fonesig Rhondda o Lanwern, Winifred Coombe Tennant o Gastell Nedd ac Emily Phipps o Abertawe, gyfrannu tuag at fudiad y swffragwyr a wnaeth helpu i ddod a chydraddoldeb democrataidd i’n gwlad."

"Tra’r ydyn ni wedi gweld llawer o gynnydd, rydyn ni’n dal heb gyflawni gwir gydraddoldeb yn ein democratiaeth, ein gwleidyddiaeth ac ein cymdeithas; mae dadleuon diweddar megis sgandal cyflog y BBC, rôl marched mewn digwyddiadau chwaraeon a’r honiadau ysgytwol o aflonyddu a cham-drin rhywiol mewn gwleidyddiaeth i gyd yn dangos pa mor bell yr ydyn ni’n dal angen teithio i hybu cydraddoldeb yn ein cymdeithas."

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore (Caerdydd), Cyd Lefarydd WLGA dros Gydraddoldeb, Diwygio Llesiant a Gwrth-Dlodi:

"Mae’n wych mai menyw sydd yn arwain WLGA am y tro cyntaf ond dim ond 4 arweinydd, 6 dirprwy arweinydd a 5 prif weithredwr ar draws 22 o awdurdodau lleol Cymru, sy’n fenywod. Dim ond 28% o gynghorwyr Cymru sy’n fenywod, ac ar yr un cyfradd o gynnydd, byddai’n cymryd canrif arall i gyrraedd cynrychiolaeth gyfartal yn ein siambrau cyngor."

"Mae WLGA felly wedi ymrwymo i hybu mwy o amrywiaeth ymysg yr holl grwpiau tan-gynrychioledig, a byddwn yn gweithio gyda chynghorau a phartneriaid i hybu mwy o gyfranogiad ac ymgysylltu mewn democratiaeth leol."

"Ynghyd a’r dathliadau a gweithgareddau sy’n cymeryd lle ymhob cornel o’r wlad heddiw, bydd rhaglen gydlynol ‘Amrywiaeth yn ein Democratiaeth’ yn parhau tan yr etholiadau lleol nesaf yn 2022. Mae WLGA yn cefnogi ymgyrch arweinyddiaeth Chwarae Teg, ac mae menywod amlwg mewn llywodraeth leol wedi cynnig i gefnogi Rhaglen Fentora Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod."

Amcangyfrifir gan y Gymdeithas Fawcett, ar y cyfradd presennol o gynnydd mewn etholiadau, bydd 82 mlynedd arall tan y bydd cynrychiolaeth gyfartal yn cael ei gyflawni mewn llywodraeth leol yng Nghymru.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30