Mae WLGA wedi croesawu fframwaith newydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyflwyno i newid ei ffordd o fuddsoddi mewn prosiectau adfywio.
Mae fframwaith ‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’ yn cydnabod rôl buddsoddi prif ffrwd o ran adfywio ardaloedd, a bydd yn canolbwyntio ar ganolau trefi, cymunedau arfordirol a chlystyrau Rhaglen 'Cymunedau'n Gyntaf'.
Trwy ddweud y dylai pob punt sydd wedi'i gwario mewn meysydd megis iechyd, tai, trafnidiaeth, addysg a threftadaeth gael effaith ar yr ardal lle mae wedi'i gwario, mae'r fframwaith yn cynnig ffordd fwy cydlynol o helpu ardaloedd i'w hailddyfeisio eu hunain.
Ac yntau wedi'i seilio ar y syniad o dargedu buddsoddiadau trwy ddefnyddio adnoddau mewn modd cryfach a mwy cyfannol – mewn llai o leoedd ar unrhyw adeg – fe fydd y fframwaith newydd yn rhoi hyd at £30 miliwn y flwyddyn ar gael i ddibenion adfywio.
Bydd byd llywodraeth leol Cymru yn cymryd rhan flaengar trwy gyflwyno ceisiadau am arian ar gyfer prosiectau partneriaethau lleol. Rhaid i bob cais gyflwyno dadl gadarn o blaid y prosiect a dangos yn eglur sut bydd y gymuned yn elwa arno.
Meddai'r Cynghorydd Harry Andrews MBE (Caerffili), Llefarydd WLGA dros Adfywio a Datblygu Economaidd:
“Mae byd llywodraeth leol yn croesawu fframwaith adfywio newydd Cymru a'r ffaith y bydd gweithgareddau adfywio mor gydlynol ac effeithiol ag y bo modd.
Bydd y fframwaith newydd yn atgyfnerthu rôl ganolog bresennol byd llywodraeth leol o ran hwyluso prosiectau adfywio. Mae'n bwysig cydweithio er adfywio, buddsoddiadau cynaladwy, swyddi a ffyniant ac mae byd llywodraeth leol yn cydnabod ers talwm bod angen i bob partner gydlynu ei wasanaethau a'i wariant i sbarduno twf economaidd ac adfywio lleol.
Mae byd llywodraeth leol o'r farn ei bod yn hanfodol defnyddio'r fframwaith newydd i fanteisio ar gyfleoedd a ddaw yng nghyfres nesaf Cronfeydd Strwythurol Undeb Ewrop. Trwy'r fframwaith, bydd cymorth ariannol yn 2013/14 i gau pen y mwdwl ar brosiectau cyfredol ac, o 2014/15 ymlaen, bydd modd defnyddio'r fframwaith i gael arian cyfatebol ar gyfer rhagor o dwf ac adfywio yn ein cymunedau ni.”
DIWEDD