Mae WLGA wedi croesawu Papur Gwyn yn rhan o fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno mesur ynglŷn ag iechyd y cyhoedd yn y pen draw.
Meddai’r Cynghorydd Neil Moore (Bro Morgannwg), Llefarydd WLGA dros Wasanaethau Rheoleiddio a Rheng Flaen:
“Un o orchwylion craidd byd llywodraeth leol yw gwella a diogelu iechyd pobl, ac rydyn ni’n croesawu’r papur yma’n rhan o fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno mesur ynglŷn ag iechyd y cyhoedd rywbryd. Rydyn ni o’r farn ei bod yn bryd inni gynnal trafodaeth o bwys am ehangu swyddogaeth y cynghorau lleol yn y maes yma gan fod hynny wedi’i wneud yn Lloegr. Mae byd llywodraeth leol yn cyflawni sawl swyddogaeth yn barod o ran hybu lles ac, felly, byddai’n synhwyrol rhoi inni ragor o gyfrifoldeb a grym dros drin a thrafod materion iechyd y cyhoedd.”
“Mae gwaith staff safonau masnach ac iechyd amgylcheddol cynghorau lleol yn bwysig iawn ynglŷn â diogelu iechyd pobl bob dydd. Mae gorchwylion megis rhwystro’r ifainc rhag cael gafael ar alcohol a baco, gwirio ansawdd labeli a disgrifiadau bwyd, atal twyll ynglŷn â bwyd a thrwyddedu adeiladu yn helpu i leddfu’r peryglon i iechyd pobl.”
“Bydd unrhyw fesur ym maes iechyd y cyhoedd yn bwysig iawn ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn cydnabod ac yn ehangu rôl hanfodol y cynghorau lleol ynglŷn â chynnal sawl gweithgaredd ataliol sy’n lleddfu’r pwysau ar y GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn y wlad yma. Edrychwn ni ymlaen at gyfrannu’n gadarnhaol at yr ymgynghori.”
DIWEDD