CLILC

 

Arweinydd yn llongyfarch dysgwyr ar ddiwrnod canlyniadau TGAU

  • RSS
Dydd Iau, 22 Awst 2019 Categorïau: Dysgu gydol oes Newyddion
Dydd Iau, 22 Awst 2019

Mae Arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Debbie Wilcox, heddiw wedi llongyfarch dysgwyr ar eu canlyniadau TGAU.

Mae perfformiad TGAU wedi gwella 1.2 pwynt canran ar y cyfan o gymharu a 2018, gyda 62.8% o ymgeiswyr yn cyflawni gradd C neu uwch. Arhosodd cyfradd y rhai gyflawnodd raddau A*-A yn sefydlog ar 18.4%.

Daeth trawsnewidiad hir-dymor y system TGAU i derfyn eleni, gyda’r saith pwnc diwethaf o’r pynciau TGAU diwygiedig yn cael eu cyflwyno eleni, gan gynnwys Cymraeg Ail Iaith, Busnes a Hanes.

 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Fel cyn athro fy hun, rwy’n gwybod ond yn rhy dda pa mor nerfus y gall diwrnod canlyniadau fod i bawb sy’n gysylltiedig ag e. Hoffwn longyfarch yr holl ddysgwyr ar eu cyflawniadau, ac ar eu gwaith caled sydd wedi arwain tuag at heddiw. Gall teuluoedd, athrawon a staff ysgolion, sydd i gyd wedi cefnogi dysgwyr dros yr hyn all fod yn gyfnod neilltuol o anodd iddyn nhw, heddiw ymhyfrydu ac ymfalchïo yn eu llwyddiant, a hoffwn i hefyd ddiolch iddyn nhw am eu rôl hollbwysig.”

 

-DIWEDD-

http://www.wlga.cymru/leader-congratulates-learners-on-gcse-results-day