Mae ffigyrau sy’n cael eu rhyddhau heddiw yn datgelu bod 64% o ddangosyddion perfformiad cymharol cynghorau wedi gwella dros y flwyddyn ddiwethaf. Adeilada hyn ar wella cyson gyda dros dwy ran o dair dangosyddion perfformiad yn dangos gwella bob blwyddyn dros y ddegawd ddiwethaf.
Wrth ymateb i’r ffigyrau, a gyhoeddwyd gan Uned Ddata Llywodraeth Leol – Cymru, dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE (Sir Ddinbych), Llefarydd WLGA dros Wella:
“Mae cynghorau yn parhau i ddarparu gwelliannau ar draws nifer o wasanaethau, gan gynnwys addysg, llyfrgelloedd, gwastraff a chynllunio. Mae’r gwella flwyddyn-ar-flwyddyn yma ar draws Cymru yn drawiadol, yn enwedig gan gofio pwysedd cyllidebol a mwy o alw ar wasanaethau.”
“Dylai cynghorau gael eu canmol, ond yn benodol, dylai staff ymroddgar a dygn gael eu cydnabod am ddarparu’r gwasanaethau hanfodol yma bob dydd yn ein cymunedau.”
“Mi fydd yn her i gynnal y gwella cyson yma i’r dyfodol, yn enwedig wrth fod cynghorau yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd yn ymwneud ag argaeledd gwasanaethau a blaenoriaethu. Bydd yn rhaid i gynghorau ail-ffocysu eu hymdrechion ar sicrhau bod eu gwasanaethau yn cynnal y safon heb sôn am barhau i wella, o ganlyniad i heriau ariannol a mwy o alw ar wasanaethau.”
Dengys y ffigyrau perfformiad hefyd bod y bwlch rhwng yr awdurdodau sy’n perfformio orau ac yn waethaf wedi lleihau ar draws 52% o ddangosyddion yn ystod 2016-17, sydd yn dangos nad yw’n achos o’r awdurdod gorau yn gwella yn unig, ond hefyd bod yr awdurdodau i gyd yn gwella yn gyson ar draws y bwrdd.
Ychwanegodd y Cyng. Evans:
“Mae nifer o gynghorau wedi ennill cydnabyddiaeth mewn gwobrau ledled y DU eleni, a dangosodd yr Arolwg Cenedlaethol dros Gymru diweddar bod y cyhoedd yn gyffredinol â meddwl uchel o wasanaethau cyngor, gyda 48% o bobl yn cytuno bod eu cyngor yn darparu gwasanaethau sydd ddim ond yn dda, ond o ‘safon uchel’, a llawer o wasanaethau cyngor, megis ysgolion ac ailgylchu, yn arbennig yn cael clôd.”
Dengys Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016-17 bod:
- 95% o’r rhai a wnaeth ymweld a llyfrgell cyhoeddus yn foddhaol gyda’u profiad,
- 90% o rieni yn foddhaol gydag ysgol gynradd eu plentyn a 85% yn foddhaol gydag ysgol uwchradd eu plentyn,
- 82% o bobl yn fodlon â gwasanaethau ailgylchu eu cyngor a
- 70% o bobl yn meddwl bod gofal cymdeithasol a gwasanaethau cefnogi unai yn ardderchog neu yn dda.
Mae nifer o gynghorau Cymru wedi derbyn cydnabyddiaeth ledled y DU mewn nifer o wobrau cenedlaethol o fri, gan gynnwys Sir a Bwrdeistref Abertawe a Bro Morgannwg a gafodd eu enwebu ar y rhestr fer ar gyfer gwobr ‘Cyngor y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Association of Public Service Excellence a The Municipal Journal.
Nodiadau i Olygyddion
Bwletin Perfformiad Awdurdod Lleol 2016-17 ar gael yma: http://www.dataunitwales.gov.uk/local-authority-performance-2016-17 - http://www.unedddatacymru.gov.uk/local-authority-performance-2016-17
Fy Nghyngor Lleol: http://www.mylocalcouncil.info/default.aspx?lang=cy-GB
Arolwg Cenedlaethol Cymru: http://gov.wales/statistics-and-research/national-survey/?tab=current&skip=1&lang=cy
Enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer ymysg awdurdodau lleol Cymru oedd:
Gwobrau Association of Public Service Excellence – Medi 2017
- Cyngor y Flwyddyn mewn Darparu Gwasanaeth; Rhestr Fer: Dinas a Sir Abertawe
- Tîm Gwasanaeth Gorau y Flwyddyn: Rheoli Gwastraff a Gwasanaeth Ailgylchu; Enillydd: Dinas a Sir Abertawe
- Tîm Gwasanaeth Gorau y Flwyddyn: Priffyrdd, Cynnal dros y Gaeaf a Gwasanaeth Goleuo Strydoedd; Enillydd: Dinas a Sir Abertawe
- Rhaglen Arloesi neu Reoli Galw Orau; Rhestr Fer: Cyngor Sir Powys
- Rhaglen Effeithlonrwydd a Thrawsnewid Orau; Rhestr Fer: Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy
- Rhaglen Iechyd a Llesiant Orau (Gan gynnwys Gofal Cymdeithasol); Rhestr Fer: Cyngor Sir Powys
- Rhaglen Gweithlu Orau; Restr Fer: Dinas a Sir Abertawe
- Tîm Gwasanaeth Gorau y Flwyddyn: Iechyd Amgylcheddol, Safonau Masnach a Gwasanaeth Rheoleiddio; Rhestr Fer: Gwasanaethau Rheoleiddio wedi eu Rhannu (Pen-y-Bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg)
- Tîm Gwasanaeth Gorau y Flwyddyn: Gwasanaeth Adeiladu; Rhestr Fer: Dinas a Sir Abertawe
Local Government Chronicle - Mehefin 2017
- Tîm y Flwyddyn; Enillydd – Bro Morgannwg (Y Caffi Arweinwyr)
- Ymgyrch y Flwyddyn; Rhestr Fer – Cyngor Sir Bwrdeistref Caerffili, A yw’ch bin yn pechu?
Municipal Journal – Mawrth 2017
- Awdurdod Lleol y Flwyddyn; Rhestr Fer – Cyngor Bro Morgannwg
- Trawsnewid y Gweithlu; Rhestr Fer – Dinas a Sir Abertawe
- Rhagoriaeth mewn Ymgysylltu â’r Gymuned; Rhestr Fer – Cyngor Bro Morgannwg