CLILC

 

Datganiad ar y cyd gan y 22 o arweinwyr cyngor yng Nghymru: Ymgyrch etholiadol teg a pharchus

  • RSS
Dydd Mercher, 02 Chwefror 2022 Categorïau: Democratiaeth leol a llywodraethu Newyddion
Dydd Mercher, 02 Chwefror 2022

Yng nghyfarfod Bwrdd Gweithredol CLlLC ddydd Gwener, fe gytunodd arweinwyr y cynghorau i wneud datganiad ar y cyd yn galw ar gynghorwyr a’r holl ymgeiswyr yn etholiadau lleol mis Mai i ymrwymo i ymgyrch etholiadol teg a pharchus:

 

Rydym i gyd yn rhy gyfarwydd â’r gamdriniaeth yr ydym yn ei gweld yn ein mewnflychau e-bost, ar ein negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol neu’n ei gweld neu’n ei chlywed ar ein strydoedd, neu’n waeth na hynny, yn ein cartrefi.  

 

Fe ddylai gwleidyddiaeth ganolbwyntio ar ffeithiau a thrafodaeth barchus am wahaniaethau o ran polisi neu flaenoriaethau, nid sarhad neu anoddefgarwch, camwybodaeth neu gasineb at fenywod, gwahaniaethu neu rwyg.

 

Rydym wedi ymrwymo i ddenu mwy o bobl amrywiol i ystyried sefyll ar gyfer etholiad, mae angen i ni roi tawelwch meddwl a chefnogi’r ymgeiswyr hynny sy’n newydd i fywyd democrataidd, y rhai hynny sy’n ymwybodol eu bod yn y lleiafrif neu sydd eisoes wedi profi gwahaniaethu.

 

Mae etholiadau’r cyngor yn ymwneud â phobl sydd eisiau cyfrannu a sydd eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n cymunedau.

 

Gwaetha'r modd, rydym ni'n gweld nifer gynyddol o gynghorwyr ac ymgeiswyr yn cael eu cam-drin, eu bygwth a'u dychryn.

 

Yn ogystal â bod yn gwbl annerbyniol, mae'r ymddygiad hwn yn tanseilio egwyddorion rhyddid barn, ymgysylltu democrataidd a thrafod.

 

Rydym ni'n ymdrechu i drin pawb â chwrteisi, caredigrwydd a pharch ac, fel arweinwyr, rydym ni'n sefyll gyda'n gilydd i alw am roi diwedd ar gam-drin, brawychu ac aflonyddu o unrhyw fath. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth i ni gychwyn ar y cyfnod allweddol cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai.

 

Rydym ni'n addo cymryd rhan mewn ymgyrch etholiadol deg sy'n seiliedig ar ymgyrchu cadarnhaol a theilyngdod, yn hytrach nag ymosodiadau personol a difenwol yn erbyn unigolion.

 

Rydym ni'n annog pob aelod etholedig a phob ymgeisydd yn yr etholiad sydd ar y gweill i wneud yr un peth. Yn ogystal, fe fyddwn ni'n amlygu'n gyhoeddus unrhyw ymddygiad amhriodol o'r fath ac ni fydd unrhyw oddefgarwch o ran cam-drin.

 

Mae gan bob un ohonom ni'r hawl i gyflawni ein dyletswyddau dinesig heb ofni ymosodiad neu gamdriniaeth.

 

Mae unrhyw ymddygiad amhriodol – naill ai ar lafar, yn gorfforol neu'n ysgrifenedig ar y cyfryngau cymdeithasol – yn gwbl annerbyniol, a bydd camau'n cael eu cymryd os bydd angen.

 

Byddwch yn garedig ac yn deg ym mhopeth rydych chi'n ei ddweud ac yn ei wneud.

 

-DIWEDD-

http://www.wlga.cymru/joint-statement-by-the-22-council-leaders-in-wales-fair-and-respectful-election-campaign