Bywiogi’r cymunedau gwledig i wynebu Brexit, meddai Fforwm Gwledig CLlLC

Dydd Gwener, 15 Mehefin 2018

Mae Fforwm Gwledig CLlLC, sy’n cynnwys naw awdurdod lleol gwledig o bob cwr o Gymru, yn galw ar Lywodraethu Cymru a’r DU i sicrhau nad yw cymunedau gwledig Cymru’n cael eu gadael ar ôl, ar ôl Brexit.  

Fe wnaeth arweinwyr yr awdurdodau hyn gyfarfod yn Fforwm Gwledig CLlLC yn Llandrindod ddydd Mercher 6 Mehefin. Mae’r fforwm â’r mandad democrataidd i siarad ar ran cymunedau gwledig Cymru, sy’n aml yn dod yn ail yn y setliad datganoledig yng Nghymru. Mae’r fforwm yn bwriadu gweithio gyda’r cymunedau hyn i wneud yr achos anorchfygol dros fwy o adnoddau, cludiant gwell, tai fforddiadwy ac adfywiad economaidd.

Yn anad dim, rydym yn galw am drefniadau ariannu wedi’u sicrhau ar ôl Brexit, i sicrhau nad yw ein cymunedau gwledig yn cael eu gadael ar ôl. Gwnaed addewidion clir cyn y refferendwm ac mae'r amser yn agosáu i wleidyddion San Steffan weithredu ar y rhain. Nid yw hyn yn ymwneud â phroblemau yn y sector amaethyddol yn unig, gyda'r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn dod i ben, ond hefyd y diffyg o ran cyflogaeth ystyrlon a chartrefi i bobl ifanc, y rhaglen sgiliau a'r ffaith bod y gefnlen ddigidol ar draws ardaloedd gwledig Cymru yn gyntefig, yn enwedig o ran cysylltedd band eang. Tra bod rhai cymunedau’n awchu am y cyfle o gael 5G, mae eraill yn dal i aros am dechnoleg 3G.   

Mae Aelodau o Fforwm Gwledig CLlLC wedi cytuno i bwyso ar Lywodraethau’r DU a Chymru ar y materion allweddol canlynol:

  1. Ceisio eglurhad ar unwaith o ran natur Gwarant Llywodraeth y DU ar gyfer bob Rhaglen Ariannu UE gyfredol yng Nghymru.
  2. Ceisio eglurhad ar unwaith ar gyllid UE wedi’i ddisodli, ar gyfer Datblygu Economaidd, Sgiliau a Chyflogaeth Wledig.
  3. Pwyso ar Lywodraethau'r DU a Chymru ar gyfer mewnbwn llywodraeth leol o ran datblygu Fframweithiau DU allweddol, a threfniadau deddfwriaethol eraill, a fydd yn llywodraethu meysydd allweddol o gyfrifoldebau llywodraeth leol wrth i’r DU adael yr UE (e.e. mewn perthynas â Safonau Masnachu ac Amgylcheddol).
  4. Archwilio Bargen Sector Cymru Wledig, wedi’i halinio â Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraethu y DU, ac ategu at 4 Bargen Twf a Dinas ar draws Cymru.  
  5. Nodi’r meysydd allweddol hynny o weithgaredd, lle mae pob Awdurdod Lleol Gwledig yn cydweithio i roi sylw i faterion a heriau cyffredin e.e. mewn perthynas â'r rhaglenni Sgiliau a Digidol.
  6. Nodi atebion arloesol i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu Cymru Wledig.
  7. Darparu llais dylanwadol ac onest dros Gymru Wledig i godi proffil materion gwledig o fewn pob un o’r 4 Rhanbarth ar draws Cymru, ac o fewn Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris (Powys), Llefarydd Materion Gwledig ar y Cyd CLlLC a Chyd-gadeirydd Fforwm Gwledig CLlLC:

“Bydd ffocws parhaus ar bledio’r achos, fel bod pawb sy'n gwneud penderfyniadau yn Llywodraethau Cymru a'r DU yn deall yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu Cymru Wledig yn llawn. Mae’r cymunedau hyn wedi’u hanwybyddu ers gormod o amser. Byddwn yn dechrau gydag ymgysylltu â Grŵp Gwledig Aelodau Cynulliad Trawsbleidiol Cynulliad Cymru newydd, ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid gwledig allweddol a phartneriaid ar draws Cymru, y DU ac Ewrop.”

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Gwynedd), Llefarydd Materion Gwledig ar y Cyd CLlLC a Chyd-gadeirydd Fforwm Gwledig CLlLC:

“Fel Arweinwyr awdurdod lleol, rydym yn ymwneud llawer â Bargeinion Dinas a Bargeinion Twf ar draws Cymru. Rydym hefyd yn gyfrifol am y cymunedau gwledig yn ein hardaloedd ac mae angen i’n cynlluniau datblygu rhanbarthol eu hymgorffori, ochr yn ochr â’n cymunedau trefol. Mae Fforwm Gwledig CLlLC diweddar wedi mynegi pryderon difrifol, yn enwedig dros yr ansicrwydd cyfredol ynghylch ariannu datblygiad gwledig a sgiliau yn y dyfodol. Er mwyn cynllunio ymlaen llaw yn effeithiol, mae angen i ni wybod pa drefniadau a chyllid fydd yn eu lle wedi i’r DU adael yr UE.”

Bydd gan Aelodau CLlLC gyfle i gyfrannu at y trafodaethau ar y cynlluniau ar gyfer Fforwm Gwledig wedi’i ailfywiogi yn ystod sesiwn gweithdy yng Nghynhadledd Flynyddol CLlLC ddydd Iau 28 Mehefin. Bydd Adroddiad yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol CLlLC ddydd Gwener 29 Mehefin, yn amlinellu ffocws newydd y Fforwm Gwledig a bydd Datganiad o Fwriad yn cael ei ddatblygu'n cynnwys y prif gwestiynau, wedi’u targedu at Lywodraethau Cymru a’r DU.

-DIWEDD-

Categorïau: Ewrop Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30