CLILC

 

Cyllid ar gyfer cefnogaeth ddigidol yn cael ei groesawu gan CLlLC

  • RSS
Dydd Iau, 31 Hydref 2019 Categorïau: Diwygio maes llywodraeth leol Newyddion
Dydd Iau, 31 Hydref 2019

Mae CLlLC wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw am gyllid a fydd yn cefnogi cynghorau i wneud defnydd o dechnoleg ddigidol i ailwampio sut y mae gwasanaethau lleol yn cael eu darparu.

Mewn cyfarfod o’r Bwrdd Gweithredu yn Sir y Fflint yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol y bydd cyllid o dros £1m yn cael ei neilltuo dros y flwyddyn ariannol nesaf i gefnogi ymdrechion cynghorau i gyflwyno technoleg ddigidol i drawsnewid gwasanaethau.

Bydd £500,000 ychwanegol hefyd yn cael ei ddarparu yn flynyddol dros y dair mlynedd nesaf i helpu i ariannu swydd Prif Swyddog Digidol newydd ynghyd ag Uned Gyflawni i’w cynnal gan CLlLC ac yn cael eu goruchwylio gan y Grŵp Cynghorol Digidol, sydd yn cynnwys Aelodau CLlLC, cynrychiolwyr o SOLACE, SOCITM a rhanddeiliaid a gweithwyr proffesiynol eraill.

 

Yn croesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Llefarydd CLlLC dros Faterion Digidol ac Arloesi y Cyng Peter Fox OBE (Sir Fynwy):

“Rydyn ni’n croesawu’r ymrwymiad yma gan Lywodraeth Cymru a fydd yn helpu i gydlynu ymdrechion CLlLC a chynghorau i ddefnyddio technoleg ddigidol i drawsnewid gwasanaethau lleol.

“Mae newid digidol yn golygu gwneud y mwyaf o dechnoleg i ddatrys problemau ac i gynllunio gwasanaethau sydd yn rhoi trigolion yn gyntaf. Rydyn ni’n gwybod bod trigolion yn gwneud defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol sydd nid yn unig wedi newid y ffordd y mae pobl yn cysylltu a’u gilydd, ond hefyd sut y mae nhw’n disgwyl i gysylltu gyda busnesau a gwasanaethau cyhoeddus.

“Mae awdurdodau lleol wedi cymryd camau mawr yn y blynyddoedd diweddar o ran datblygu a defnyddio datrysiadau digidol yn eu gwasanaethau, gan gynnwys sawl prosiect ar y cyd yn ymwneud â botiau siarad, gwe-ddarlledu, gweithio o bell, apiau a rhith-wirionedd. Ond mae llawer mwy yn dal angen ei wneud i sicrhau gwell cysondeb a chydlyniad o dechnoleg ddigidol i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i drawsnewid ac yn cwrdd ag anghenion trigolion nawr ac yn y dyfodol.

“Edrychaf ymlaen i weld sut y bydd y buddsoddiad yma, ynghyd ag ymrwymiad gan yr holl gynghorau, yn helpu i ddarparu ymagwedd mwy uchelgeisiol a chyson i drawsnewid digidol ac i hybu gwell ymgysylltu gyda phreswylwyr.”

 

-DIWEDD-

NODIADAU I OLYGYDDION:

Gellir gweld Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog yma: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-prif-swyddog-digidol-llywodraeth-leol?_ga=2.250069379.46885677.1572538090-1546447420.1571147647

 

 

http://www.wlga.cymru/funding-for-digital-support-welcomed-by-wlga