Mae cydraddoldeb yn bwysicach fyth yn ystod cyfnod economaidd anodd

Dydd Iau, 27 Mawrth 2014

Bydd cynadleddwyr o bob cwr o fyd llywodraeth leol a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cwrdd heddiw i drafod pam y dylai’r ymdrech i hybu tegwch yng Nghymru barhau’n flaenoriaeth yn y sefyllfa sydd ohoni. 

Dyma’r drydedd gynhadledd flynyddol mae byd iechyd a llywodraeth leol Cymru wedi’i threfnu ar y cyd. Fe ddaw â chynghorwyr lleol ac arbenigwyr cydraddoldeb o bob rhan o’r wlad at ei gilydd i drafod pam mae’n hanfodol hybu cydraddoldeb mewn cyfnod pan fydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu talcen caled iawn. 

Gan fod disgwyl y gallai fod diffyg o £2.6 biliwn yng nghoffrau’r gwasanaethau hynny erbyn 2025, mae’r gynhadledd yn cynnig cyfle euraidd i gnoi cil ar anghenion mwyfwy cymhleth cymunedau lleol ar adeg pan fydd cyllidebau gwasanaethau cymorth lleol yn crebachu’n fawr. 

Meddai’r Parchedig Aled Edwards OBE, Prif Weithredwr Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru, a chadeirydd y gynhadledd: 

“Mae thema’r gynhadledd heddiw yn cynnig cyfle euraidd i chwalu’r dyb mai dim ond yn ystod ffyniant y bydd modd hybu cydraddoldeb a thegwch.” 

“Mae sefydliadau’r gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â’n partneriaid yn y sector preifat a’r trydydd sector, yn cyflawni rôl hanfodol ynglŷn â diogelu a diwallu anghenion ein cymunedau ni. Mae’r gynhadledd yma’n cynnig cyfle i ystyried sut gallwn ni barhau i wneud hynny er ein bod yn wynebu anawsterau ariannol. Yn hytrach na bod yn faich neu’n ddiangen, dylai’r ymdrech i hybu tegwch yng Nghymru gael ei gweld yn ffordd o ddyrannu’n hadnoddau ariannol prin yn ddoethach ac yn fwy effeithiol.” 

Meddai’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn (Ceredigion), Llefarydd WLGA dros Gydraddoldeb: 

“Mae pawb yn gwybod pa mor bwysig yw hybu tegwch a chydraddoldeb ond rydyn ni’n gwybod hefyd ein bod mewn sefyllfa hynod ymestynnol. Mae’r gynhadledd heddiw yn mynnu na allwn ni ystyried cydraddoldeb ar ei ben ei hun ac y dylai’r ymdrech i hybu tegwch yng Nghymru fod wrth wraidd y drafodaeth am sut y byddwn ni’n cynnig ein gwasanaethau cyhoeddus lleol yn y dyfodol.” 

“Mae’r cynghorau lleol wedi wynebu amryw benderfyniadau anodd gan y bydd diffyg o £290 miliwn yn eu coffrau yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Maen nhw’n gwneud eu gorau glas yn barod i gadw’r ddysgl yn wastad rhwng y galw am wasanaethau a’r arian sydd ar gael i gynnal y gwasanaethau hynny.” 

“Yn wyneb heriau economaidd o’r fath, rhaid inni gofio mai rôl arweinyddion cyhoeddus yw gwella byd pawb yn ein bröydd ni. Os gallwn ni ddeall anghenion cymunedau ac unigolion, gallwn ni arbed costau a bod yn fwy effeithiol. Rhaid inni ystyried atebion newydd ac arloesol fydd yn ein galluogi i ddyrannu’n hadnoddau ariannol prin yn y modd mwyaf llesol i bobl Cymru.” 

Meddai Paula Walters, Cyfarwyddwr Canolfan y GIG dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol: 

“Mae cyrff sector cyhoeddus Cymru yn wynebu anawsterau ariannol difrifol a chan fod angen iddyn nhw gwtogi ar gostau – a gwella eu gwasanaethau yr un pryd – gallai rhai fod o’r farn nad oes digon o arian i hybu cydraddoldeb hefyd.” 

“Gobeithio y bydd y gynhadledd heddiw yn helpu i gywiro’r dyb honno gan ddangos sut dylai asiantaethau gadw golwg ar y sefyllfa (gan y gallai fod effaith ar gydraddoldeb yn sgîl newid gwasanaethau) a sut gallwn ni hybu tegwch er lles pobl Cymru yn ogystal ag arbed costau, gwella gwasanaethau a sefydlu gweithlu tecach a chynaladwy.” 

DIWEDD 

Nodiadau i olygyddion: 

Rhaglen y gynhadledd 

9.30 Cofrestru a lluniaeth 

10.00 Croeso 
Y Parchedig Aled Edwards OBE, Prif Weithredwr Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru 

10.10 Cydraddoldeb: Oes ei angen? 
Jeff Cuthbert AC, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi 

10.30 Cydraddoldeb a llymder: Heriau ac atebion 
Yr Athro Steve Smith, Prifysgol y De a Chadeirydd Comisiwn Tegwch Casnewydd 

11.00 EGWYL 

11.20 Trafodaeth: All dyletswyddau, strategaethau ac asesu effeithiau helpu i newid y byd? 

Aelodau’r panel: 
Y Dr Alison Parken (Prifysgol Caerdydd) 
Y Cyng. David Phillips (Dinas a Sir Abertawe) 
Debbie Sigerson (GIG yr Alban) 
Rhian Davies (Anabledd Cymru) 

12.15 CINIO 

1.00 Grym gobaith 
Mary Keightley, Mind Associates 

2.00 Wynebu’r her: safbwyntiau byd iechyd a llywodraeth leol 

Will Mclean (Cyngor Sir Fynwy) 
Shane Mills (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro) 
Julian Baker (Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf) 

3.00 EGWYL 

3.15 Pam mae cydraddoldeb yn bwysig i mi 
Nigel Owens, Dyfarnwr, Undeb Rygbi Rhyngwladol 

4.00 DIWEDD

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni
   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd, CF10 4LG

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30