Daw Mesur ‘Llywodraeth Leol’ Cymru yn sgîl Papur Gwyn ‘Grym i Bobl Leol’ gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eleni. Mae’n manylu ar y bwriad i ad-drefnu maes llywodraeth leol megis faint y byddai modd ei arbed, faint fyddai’r gost yn y lle cyntaf a faint o weithwyr allai golli eu swyddi.
Meddai llefarydd ar ran WLGA:
“Mae tua 650 o dudalennau yn y mesur a’r dogfennau ategol. Felly, bydd angen amser i gynghorau a sefydliadau cysylltiedig eraill ddarllen a deall y cynnwys yn llawn. Mae’r mesur yn ymhelaethu ar yr ailstrwythuro arfaethedig yn ogystal â chynnig newid trefniadau llywodraethu a rheoli’r cynghorau.”
“Mae’n amlwg yn syth, fodd bynnag, y bydd effaith ar swyddi. Mae rhai pobl yn dweud y gallai hyd at 2,000 o weithwyr golli eu swyddi yn sgîl yr ad-drefnu – a hynny ar ben 8,000 o swyddi sydd wedi’u colli ers 2010 a miloedd eto dros y blynyddoedd nesaf hyn o ganlyniad i doriadau. Y cyngor lleol yw’r cyflogwr mwyaf a gorau mewn sawl bro. Mae’r cyfryngau wedi codi pryderon am swyddi sydd wedi diflannu yn y sector preifat ond mae llawer mwy wedi mynd ym maes llywodraeth leol bron yn ddi-sylw."
“Mae WLGA yn gobeithio y bydd y ddeddf hon yn rhyddhau cynghorau lleol rhag gormod o waith papur a rheoleiddio, yn ôl bwriad Llywodraeth Cymru. Mae’r cynghorau wedi gofyn am hyblygrwydd ers blynyddoedd fel y gallan nhw ymateb i doriadau a phwysau enfawr. Felly, fydden nhw ddim yn croesawu unrhyw beth sy’n ychwanegu at y duedd i ganoli mwy a mwy o rym yng Nghymru. Fe fydd WLGA yn trafod y mesur hwn yn drylwyr ac yn ei farnu yn ôl egwyddorion atebolrwydd lleol fel sydd wedi’u hamlinellu yn y maniffesto gyhoeddon ni ddoe.”
“Er gwaetha’r mesur, fydd y ffordd ymlaen ddim yn hysbys cyn etholiad nesaf y Cynulliad fis Mai, ac mae arweinyddion y cynghorau lleol wedi dweud yn eglur ers dechrau rhaglen ddiwygio Llywodraeth Cymru y dylai cymunedau’r wlad gael dylanwadu ar ffurf democratiaeth leol a gwasanaethau lleol.”
“Mae’r mesur yn annigonol o ran cysoni treth y cynghorau ond beth bynnag fydd canlyniad etholiad y Cynulliad, fydd dim ad-drefnu cyn 2020. Felly, gallai fod angen aros am ryw ddegawd cyn gweld yr arbedion sydd wedi’u darogan. Fydd hynny ddim o gymorth ynglŷn â’r anawsterau enfawr sydd i’w hwynebu dros y pum mlynedd nesaf. Diau y bydd goblygiadau sylweddol i wasanaethau cyhoeddus Cymru yn sgîl cyhoeddiad Canghellor Trysorlys San Steffan am wariant y wladwriaeth yfory.”
“Mae maniffesto WLGA yn sôn am rai newidiadau y dylai Llywodraeth Cymru eu cyflwyno i helpu’r cynghorau lleol i ymateb i’w hanawsterau yn ddiymdroi fel y gallan nhw wireddu blaenoriaethau eu bröydd yn ogystal â chyfrannu at uchelgeisiau a deilliannau gwladol.”
“Daw cyfnod o ymgynghori yn sgîl cyhoeddi’r mesur heddiw, a bydd arweinyddion a chynghorwyr uchelradd yn cnoi cil arno gyda Gweinidog y Gwasanaethau Cyhoeddus yn ystod cyfarfod Cyngor WLGA ddydd Gwener.”
Dyma faniffesto WLGA