“Bydd cynghorau yn gwneud popeth o fewn eu gallu i waredu effeithiau gwaethaf Brexit ar wasanaethau lleol hanfodol”

Dydd Iau, 05 Medi 2019

Daeth swyddogion ac aelodau arweiniol Brexit ynghyd heddiw mewn digwyddiad i drafod paratoadau ar gyfer Brexit, yng nghanol aneglurder parhaus yn San Steffan.

Ymunodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit Jeremy Miles, ynghyd a Llywydd Confensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban (COSLA) y Cyng Alison Evison, gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol yn y digwyddiad.

Ers canlyniad y refferendwm yn 2016, mae cynghorau ar draws Cymru wedi ymgymryd â nifer o asesiadau ac arolygon i ganfod y risgiau posibl i wasanaethau lleol pe bai y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Trwy CLlLC, mae awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i geisio a lleihau’r effeithiau gwaethaf ar wasanaethau lleol a chymunedau, er bod ansicrwydd parhaus yn San Steffan, a’r posibilrwydd o ymadael blêr heb gytundeb, yn rhwystro cynghorau rhag gallu ymateb.

Mae pecyn gwaith wedi ei gomisiynu gan CLlLC a’i ddatblygu gan Grant Thornton, i helpu awdurdodau lleol yn eu hymdrechion i sicrhau parhad gwasanaethau lleol hanfodol yn wyneb goblygiadau gadael yr UE.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Llefarydd CLlLC dros Ewrop:

“Bu’r digwyddiad heddiw yn gyfle gwerthfawr i lywodraeth leol ddod at ei gilydd i gymryd stoc ac i rannu profiadau am eu hymdrechion yn paratoi ar gyfer Brexit. Mae cynghorau yn gwneud popeth o fewn eu gallu i baratoi gwasanaethau lleol ac i gyfyngu’r effeithiau ar drigolion a chymunedau.

“Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ddarparu cyllid i gefnogi awdurdodau i gydlynu eu paratoadau yn lleol. Fodd bynnag, mae pen draw i faint y gall awdurdodau lleol baratoi yn wyneb newidiadau mor bellgyrhaeddol, yn enwedig yng nghyd-destun sefyllfa blêr o ddim cytundeb. Ar flaenau ein meddyliau i gyd mae pryderon o ran cyflenwadau tanwydd a bwyd, anwadalrwydd prisiau a goblygiadau statws sefydlog UE, yn enwedig o ran y gweithlu gofal cymdeithasol, wrth i 31ain Hydref brysur nesáu.

“Byddwn ni’n parhau i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau parhad ein gwasanaethau lleol hanfodol y gorau gallwn ni yn ystod y cyfnod yma o newid mawr.”

 

Dywedodd Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit:

“Tra mae’r bygythiad o ddim cytundeb trychinebus wedi cynyddu, ac ein gwaith paratoi wedi dwysáu, rydyn ni wedi teimlo pellhad o ran ymgysylltu gan Lywodraeth DU. Yn ffodus, nid dyma’r achos yng Nghymru. Rwy’n ddiolchgar i’n partneriaid o fewn llywodraeth leol sydd wedi ymgysylltu a herio Llywodraeth Cymru trwy gydol y cyfnod hwn a roeddwn i’n falch i allu ymuno â nhw yn eu digwyddiad i drafod sut y gallwn ni barhau i weithio gyda’n gilydd i ganfod ffyrdd i oresgyn effeithiau gwaethaf Brexit.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Alison Evison, Llywydd COSLA:

“Roedd heddiw yn gyfle pwysig i gryfhau ymhellach y cysylltiadau rhwng COSLA â CLlLC. Rydyn ni’n wynebu nifer o heriau tebyg wrth i ni geisio darparu gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau yng nghyd-destun Brexit, a rydyn ni’n rhannu diddordeb o rhan parhau yn gyson ar daith datganoli. Mae’r cysylltiad rhwng ein dau sefydliad yn werthfawr wrth i ni wasanaethau ein aelod gynghorau a’r cymunedau uniongyrchol y mae nhw’n eu cynrychioli.”

 

-DIWEDD-

 

NODIADAU I OLYGYDDION

Ceir fwy o fanylion am gefnogaeth CLlLC i gynghorau trwy Rhaglen Cefnogi Trosglwyddiad yr UE yma:

 

 

Categorïau: Ewrop Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30